A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid.
Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw.
Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am wneud gwaith yr offeiriaid — popeth sy'n ymwneud â'r allor a'r tu mewn i'r llen. Mae'r fraint o gael gwneud gwaith offeiriad yn anrheg gen i i chi. Os bydd unrhyw un arall yn dod yn rhy agos, y gosb fydd marwolaeth.”
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion.
Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi — eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion.
Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta.
Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi.
Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu — yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid. ”
Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.”
“Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD.
“Dywed wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r gorau o'r degwm i'r ARGLWYDD, bydd yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg.
Os gwnewch chi gyflwyno'r gorau ohono i Dduw, fyddwch chi ddim yn euog o bechu trwy ddangos diffyg parch at offrymau pobl Israel, a fydd dim rhaid i chi farw.’”