×

Beibl Cymraeg 2023

Numeri 2

1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2
Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain.
3
[3-9] Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Jwda — Nachshon fab Aminadab — 74,600 Issachar — Nethanel fab Tswár — 54,400 Sabulon — Eliab fab Chelon — 57,400 — Cyfanswm: — 186,400 Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.
4
5
6
7
8
9
10
[10-16] I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Reuben — Elisur fab Shedeŵr — 46,500 Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai — 59,300 Gad — Eliasaff fab Dewel — 45,650 — Cyfanswm: — 151,450 Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.
11
12
13
14
15
16
17
Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda Pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.
18
[18-24] Ar yr ochr orllewinol bydd adrannau y tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Effraim — Elishama fab Amihwd — 40,500 Manasse — Gamaliel fab Pedatswr — 32,200 Benjamin — Abidan fab Gideoni — 35,400 — Cyfanswm: — 108,100 Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd y trydydd i symud allan.
19
20
21
22
23
24
25
[25-31] I'r gogledd bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla o dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Dan — Achieser fab Amishadai — 62,700 Asher — Pagiel fab Ochran — 41,500 Nafftali — Achira fab Enan — 53,400 — Cyfanswm: — 157,600 Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.
26
27
28
29
30
31
32
Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd ydy 603,550.
33
Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses.
34
Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau