Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi. Dw i'n mynd i weld os ydy'r ARGLWYDD am ymateb. Bydda i'n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e'n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial.
A dyma'r neges roddodd Balaam iddo: “Daeth Balac â fi yma o Aram; daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain: ‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai; ‘tyrd i gondemnio Israel!’
Mae Jacob fel llwch — pwy all eu cyfrif? Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw? Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn. Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”
Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un.
Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?”
Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw. Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl. Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud? Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.”