Yna daeth un o'r Israeliaid merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngu373?ydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
"Y mae Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, wedi troi fy llid oddi wrth bobl Israel; ni ddistrywiais hwy yn fy eiddigedd, oherwydd bu ef yn eiddigeddus drosof fi ymhlith y bobl.
oherwydd buont hwy'n eich poenydio chwi trwy eu dichell yn yr achos ynglu375?n Peor, ac yn yr achos ynglu375?n 'u chwaer Cosbi, merch pennaeth o Midian, a drywanwyd yn nydd y pla o achos Peor."