Os bydd dyn yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, ac yn ei roi ei hun dan ymrwymiad, nid yw i dorri ei air, ond y mae i wneud y cyfan a addawodd.
Ond os bydd ei thad yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, ni fydd unrhyw adduned nac ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi gan i'w thad ei gwahardd.
Ond os bydd ei gu373?r yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, y mae i ddiddymu ei hadduned a'i hymrwymiad byrbwyll, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
Ond os bydd ei gu373?r, pan glyw amdanynt, yn eu diddymu'n llwyr, yna ni fydd unrhyw adduned a wnaeth nac unrhyw ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; y mae ei gu373?r wedi eu diddymu, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
Os bydd ei gu373?r, o ddydd i ddydd, yn ymatal rhag dweud dim wrthi, yna bydd yn cadarnhau pob adduned a phob ymrwymiad o eiddo'i wraig; bydd yn eu cadarnhau am na ddywedodd ddim wrthi pan glywodd amdanynt.