1
Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.
2
Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.
3
Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar l y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngu373?ydd yr holl Eifftiaid,
4
tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.
5
Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.
6
Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.
7
Aethant o Etham a throi'n l i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.
8
Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y mr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.
9
Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau du373?r a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.
10
Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Mr Coch.
11
Aethant o'r Mr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.
12
Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.
13
Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.
14
Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd du373?r i'r bobl i'w yfed.
15
Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.
16
Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.
17
Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.
18
Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.
19
Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares.
20
Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna.
21
Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa.
22
Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha.
23
Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer.
24
Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada.
25
Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth.
26
Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath.
27
Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara.
28
Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca.
29
Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona.
30
Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth.
31
Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.
32
Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.
33
Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.
34
Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.
35
Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.
36
Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.
37
Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.
38
Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar l i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.
39
Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.
40
Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.
41
Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.
42
Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.
43
Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.
44
Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.
45
Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.
46
Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.
47
Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
48
Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn Jericho ger yr Iorddonen;
49
yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.
50
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,
51
"Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,
52
yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;
53
yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.
54
Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn l llwythau eich hynafiaid.
55
Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;
56
ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.'"
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004