1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, 'Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn:
3
i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw Mr yr Heli,
4
ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon;
5
yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y mr.
6
"'I'r gorllewin, y terfyn fydd y Mr Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.
7
"'Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r Mr Mawr i Fynydd Hor,
8
ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad,
9
yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.
10
"'Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan;
11
fe 'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o Fr Cinnereth;
12
yna fe 'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth Fr yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.'"
13
Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, "Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD;
14
y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth;
15
derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul."
16
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17
"Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.
18
Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.
19
Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;
20
o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;
21
o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;
22
o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;
23
o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;
24
o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan;
25
o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach;
26
o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan;
27
o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi;
28
o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud.
29
Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004