A'R 1567
|
| 1 |
| AC ar ol chwe ch diernot, y cymerawdd yr Iesu Petr, ac Iaco, ac Ioan ei vrawt, ac y duc wy i vyny dd i vonyth vchel o’r nailltuy, |
| 2 |
| ac ymrythiodd geyr y bron wy, ac a dywynnodd y wynep ef val yr haul, a’ ei ddillat oedd mor gannaid a’r goleuni. |
| 3 |
| A’ nycha, Voysen ac Elias, yn ymddangos yddynt, yn ymddiddan ac ef. |
| 4 |
| Yno yð atepawdd Petr, ac y dyvot wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni vot yma: a’s ewyllysy, gwnawn yma dri phebyll, vn i ti, ac vn i Voysen, ac vn y Elias. |
| 5 |
| Ac ef eto yn ymadrodd, nycha wybren olau yn ei gwascodi hwy: nycha, lef o’r wybren yn dywedyt, Hwn yw vy‐caredic Vap, yn yr hwn im boðolonit: clywch ef. |
| 6 |
| A’ phan glybu y discipulon hyny, y cwympesont ar ei hwynebae, ac a ofsont yn ddir vawr: |
| 7 |
| Yno y daeth yr Iesu, ac ei cyhyrddodd wy, ac a ddyvot, Cy fo dwch, ac nac ofnwch. |
| 8 |
| A’ chwedy yddynt dderchafael ei llygaid ny welsant nep any d yr Iesu yn vnic. |
| 9 |
| ¶ A’ mal y descendent o’r mynyth, y gorchymynawdd yr Iesu yddyn gan ddywedyt, Na ddywedwch y weledigaeth i nep, yn y chyvoto Map y dyn o veirw. |
| 10 |
| A’ ei ddiscipulon a ovynawdd iðo, gan ddywedyt, Pa’m gan hyny y dyweit y Gwyr llen vot yn rait i Elias ddyvot yn gyntaf? |
| 11 |
| A’r Iesu a atepawdd ac a ðyvot wrthyn, Diau y daw Elias yn gyntaf, ac yr edvryd ef oll. |
| 12 |
| Eithr mi ddywedaf ychwi, ddyvot o Elias eisioes, ac na’s adnabuont vvy ef, a’ gwneuthyd o hanynt yddo beth bynac a vynesont: velly y bydd i Vap y dyn ddyoddef ganthwynt vvy. |
| 13 |
| Yno y dyellodd y discipulon y vod ef yn dywedyt wrthwynt am Ioan Vatyddiwr. |
| 14 |
| ¶ A’ gwedy eu dyvot at y dyrva, y daeth ataw ryvv ddyn, ac aeth ar ei ’liniae iddo, ac a ddyvot, |
| 15 |
| Arglwydd, trugarha wrth vy map: can yvot ef yn lloeric, ac ydd ys yn ddrwc wrthaw: can ys mynech y cwymp ef yn tan, a’ mynech yn y dw f r. |
| 16 |
| A’ mi y dugym ef at dy ddiscipulon d i, ac ny allasant wy y iachay ef. |
| 17 |
| Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot, A genedleth, anffyddlawn a’ thraws edic, pa hyd bellach y byddaf gyd a chwi? pa hyd bellach ych dyoddefaf? dugwch ef yma ataf i. |
| 18 |
| A’r Iesu a geryddodd y cythrael, ac ef aeth allan o hanaw: a’r bachcen a iachawyt yn yr awr hono. |
| 19 |
| Yno y daeth y discipulon at yr Iesu wrtho ehun, ac a ddywedesont, Paam na allem ni vwrw ef allan? |
| 20 |
| A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, O bleit eich ancrediniaeth: can ys yn wir y dywedaf y chwi, pe bei y chwi ffydd cymeint ac yvv gronyn mwstard chvvi ddywedwch wrth y mynyth hwn, Ys y mud o dd yma draw, ac ef a ys y mut a: ac ny bydd dim am p ossibil ychwy. |
| 21 |
| An’d ny d a allan y rhyw iogeth hwn, amyn gan weddi ac vmpryd. |
| 22 |
| ¶ Ac val ydd oeddent vvy yn aros yn‐Galilaea y dyvot yr Iesu wrthwynt, Ef a dder vydd rhoddi Map y dyn yn‐dwylo dynion, |
| 23 |
| ac vvy ei lladdant, a’r trydydd dydd y cyfyd ef: a’ thristay a wnaethant yn ddirfawr. |
| 24 |
| A’ gwedy ey dyvot i Capernaum, yr ei oedd yn d erbyn arian y deyrnget, a ddaethant at Petr, ac a ddywedesont, Any’ d yw eich athro chvvi yn taly teyrnget? |
| 25 |
| Ef a ddyvot, Ydyw. Ac wedy y ðyvot ef ir tuy, yr Iesu a ei rhac vlaenodd ef, gan ddywedyt, Beth a dyby gy di Simon? Y gan bwy y cymer Brenhinedd y ddaiar deyrnget, nei dreth? y gan ei plant, ai gan estronieit? |
| 26 |
| Petr a ddyvot wrthaw, y gan estranieit. Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Gan hyny y mae’r plant yn rhyddion. |
| 27 |
| Er hyny, rac y ni y rhwystro hwy, does ir mor, a’ bwrw vach, a’ chymer y pysc otyn cyntaf a ddel i vyny dd, ac wedy yt’ agory ei eneu, ti a gai ddarn o vgein ceinioc: cymer hynny a’ dyro droso vi a’ thi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/matthew/017.mp3
28
17