A'R 1567
|
| 1 |
| YR amser hynny y deuth y discipulon at yr Iesu, can ddywedyt, Pwy ’sy vwya yn‐teyrnas nefoedd? |
| 2 |
| A’r Iesu a alwawdd ataw vachcenyn, ac ei gosodes yn ei cyfrwng, |
| 3 |
| ac a ðyvot, Yn wir y dywedaf wrthych, a ddieithyr eich ymchwelyt, a’ bot mal bachenot nid ewch i deyrnas nefoeð. |
| 4 |
| Pwy bynac can hyny a ymestyngo mal y bachcenyn hwn, hwnw yw’r mwyaf yn‐teyrnas nefoedd. |
| 5 |
| A’ phwy pynac a dd erbyn gyfryw vachcenyn yn vy Enw, a’m d erbyn i. |
| 6 |
| A’ phwy bynac a rwystro vn or ei bychein hynn a credant yno vi, gwell oedd, iddaw pe crogit maē melin am ei vwnwgl, a’ ei voddy yn eigiawn y mor. |
| 7 |
| Gwae’r byt o bleit rhwystrae: can ys angenreit yw dewot rhwystrae: er hyny gwae’r dyn hwnw. y gan yr vn yd ef y rhwystr. |
| 8 |
| Can hyny a’s dy law n ai dy droet ath rhwystra, tor wy ymaith, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt, yn gloff, ai yn anafus, nath tavly ac yty ddwy law, a’ dau droet i dan tragavythawl. |
| 9 |
| Ac a’s dy lygat ath rwystra, tynn allan, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt ac vn llygat, na’c a dau lygat, dy davly i dan yffern. |
| 10 |
| Gwelwch na thremygoch yr vn o’r ei bychein hynn: canys dywedaf y chwi, pan yw yn y nefoeð vot y Aggelō wy bop amser yn gwelet wynep vy‐Tat yr hwn ys y yn y nefoedd. |
| 11 |
| Can ys daeth Map y dyn i gadw yr hyn a gollesit. |
| 12 |
| Beth a dybiwch vvi? A’s bydd ei i ddyn gan davat, a’ myned o vn o hanynt ar ddisperot, a ny ad ef y n amyn vn pem p ugain, a’ myned ir mynydde dd a’ cheisio yr hon aethesei ar ddysperot? |
| 13 |
| Ac a’s byð yddo y chael hi, yn wir y dywedaf y‐chwi, mae mwy llawen yw ganthaw am y ddavat hono, nag am y n amyn vn pem p vcain nyd aethent ar ddispirot. |
| 14 |
| Velly ni d yw ewyllys eich Tat ysy yn y nefoe dd, bot cyfergolli yr vn or ei bychainhyn. |
| 15 |
| Eb law hyny a’s pecha dy vrawt ith erbyn, does, a’ cherydda ef ryngot ac ef wrth y vn: a’s ef ath wrendy, enilleist dy vrawt. |
| 16 |
| Ac as ef ni’th wrendy, cymer gyd a thi eto vn nei ðau, val y bo gan enae dau nei dri o testion ally sefyll o bop gair. |
| 17 |
| Ac a’s ef ny bydd gwiw gantaw eu gwrandaw, dywait wrth yr Eccleis: ac a’s ef ny vynn wrandaw ’r Eccleis chwaith, bit ef y‐ty megis Cenedlic a Phublican. |
| 18 |
| Yn wir y dywedaf, ychwi, Pa bethe pynac a rwymoch ar y ddaiar, a rwymir yn y nef oedd, a’ pha bethae bynac a ellyngwch ar y ddaiar, a ellyngir yn y nef. |
| 19 |
| Trachefyn, yn vvir y dywedaf wrthych, a’s cydsynnia dau o hanoch yn y ddaiar ar ddim oll, beth bynac ar a archant, y rhoðir yðynt y gan vy‐Tat yr hwn ’sy yn y nefoedd. |
| 20 |
| Can ys ym p le pynac ydd ymgynnull dau n’ei dri, yn vy Enw i, yno ydd wyf yn ei cenol wy. Yr Euangel y xxij. Sul gwedy Trintot. |
| 21 |
| ¶ Yno y daeth Petr ato ef, ac a ddyvot, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha vy‐brawt im erbyn, ac y maddeuaf yddaw? ai yd seithwaith? |
| 22 |
| Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Ny ddywedaf y‐ty, yd seithwaith, anid yd seithwaith ddecwaith seithwaith. |
| 23 |
| Am hynny y cyffelypir teyrnas nefoedd i ryw Frenhin, pwy vynnei gael cyfrif can ei weision. |
| 24 |
| A’ phan ddechreysei gyfrif, e dducpwyt vn attaw, a oedd yn ei ddylet o ddec mil o talentae. |
| 25 |
| A’ chā nad oeð ganto ddim oei daly, e ’orchymynawdd ei Arglwydd y werthy ef, a’ ei wreic, a’ ei blant, ac oll a veddei, a’ thaly yr ddlet. |
| 26 |
| A’r gwas a gwympawdd i lawr, ac atolygawdd iddaw, can ddywedyt, Arglwydd, oeda dy ddigoveint wrthyf, a’ thalaf y‐ty y cvvbl oll. |
| 27 |
| Yno Arglwydd y gwas hwnw a drugarhaodd wrtho, ac ei gellyngawdd, ac a vaddeuawdd iddaw y ddled. |
| 28 |
| A’ gwedy myned y gwas ymaith, e gavas vn oe gyveillion, yr hwn oedd yn y ddlet ef o gant ceiniawc, ac a ymavlawdd yntaw ac ei llindagawdd, gan ddywedyt, Tal i mi dy ddlet. |
| 29 |
| Yno y syrthiawdd ei gyfeill wrth y draet ef, ac a atolygwadd yðaw, can ddywedyt, Oeda dy ddigoveint wrthyf, a’ thalaf y‐ty y cvvbyl oll. |
| 30 |
| Ac ny’s gwnai ef, anyd myned a’ ei vwrw ef yn‐carchar, y ’n y dalei yr ðlet. |
| 31 |
| A’ phan weles ei gyveillion ereill y pethau a ddaroedd, ydd oedd yn ddrwc dros pen ganthwynt, ac a ddeuthant, ac a vanegesant y ew h’ arglwydd yr oll pethae a ddarvesynt. |
| 32 |
| Yno y galwawdd ei Arglwydd arnaw, ac a ddyvot wrthaw, A was drwc, maddeueis yty yr oll ddyled, can yty weddiaw arnaf. |
| 33 |
| Ac a ny ddylesyt tithe tosturiaw wrth dy gyfeill, megis ac y tosturiais i wrthy ti? |
| 34 |
| A’ llitiaw a wnaeth ei Arglwydd, ac ei rhoddes ef ir poenwyr, y’n y dalei ei holl ddylet iddaw. |
| 35 |
| Ac velly yr vn ffynyt y gwna veu nefawl Dat i chwithae, any vaddeuwch o’ch calonae, pop vn y’w vrawd eu camweddae. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/matthew/018.mp3
28
18