Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd, |
| 2 |
| Pa le y mae brenhin yr Iuddewon y sydd wedi Ei eni? canys gwelsom Ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli Ef. |
| 3 |
| Ac wedi clywed hyn, Herod frenhin a gynnyrfwyd, a holl Ierwshalem gydag ef, |
| 4 |
| a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni? |
| 5 |
| A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Iwdea, canys fel hyn yr ysgrifenwyd trwy’r prophwyd, |
| 6 |
| “A thydi, Bethlehem, tir Iwdea, Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah, Canys o honot y daw allan dywysog, Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.” |
| 7 |
| Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren; |
| 8 |
| a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef. |
| 9 |
| A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn. |
| 10 |
| A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. |
| 11 |
| Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr. |
| 12 |
| Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad. |
| 13 |
| Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef. |
| 14 |
| Ac wedi cyfodi o hono, cymmerth efe y plentyn a’i fam o hŷd nos, a chiliodd i’r Aipht; |
| 15 |
| a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.” |
| 16 |
| Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion. |
| 17 |
| Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremiah y prophwyd, gan ddywedyd, |
| 18 |
| “Llef yn Rama a glybuwyd, Wylofain a galar mawr; Rachel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.” |
| 19 |
| Ac wedi marw Herod, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, |
| 20 |
| a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn. |
| 21 |
| Ac efe, wedi cyfodi, a gymmerth y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel; |
| 22 |
| ond wedi clywed fod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle Herod, ei dad, ofnodd fyned yno: ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, ciliodd i barthau Galilea, |
| 23 |
| a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/matthew/002.mp3
28
2