Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu l yn gweiddi: "Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!"
Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
a dywedasant wrtho, "A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?" Atebodd Iesu, "Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: 'O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun'?"
A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, "Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy." Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r mr', hynny a fydd.
Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?"
Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?" Dechreusant ddadlau 'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'O'r nef', fe ddywed wrthym, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
Prun o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?" "Y cyntaf," meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar l ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.
"Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tu375? a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tu373?r. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
Dywedodd Iesu wrthynt, "Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni'?