Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| A phan yr agosasant i Jerusalem, ac y daethant i Bethphage, i fynydd yr Olew‐wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau Ddysgybl, |
| 2 |
| gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi. |
| 3 |
| Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt. |
| 4 |
| A hyn a ddygwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwyd, gan ddywedyd, |
| 5 |
| Dywedwch i Ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod i ti, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau. |
| 6 |
| Y Dysgyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchymynodd yr Iesu iddynt; |
| 7 |
| a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad, ac efe a eisteddodd arnynt. |
| 8 |
| A'r rhan fwyaf o'r dyrfa a daenasant eu dillad ar y ffordd; ac ereill a dorasant gangau o'r coed, ac a'u taenasant ar y ffordd. |
| 9 |
| A'r torfeydd, y rhai oeddynt yn myned o'i flaen, a'r rhai oeddynt yn canlyn, oeddynt yn llefain, gan ddywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, Hosanna yn y goruchafion. |
| 10 |
| A phan ddaeth efe i Jerusalem, yr holl ddinas a ysgydwyd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? |
| 11 |
| A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw y proffwyd Iesu, o Nazareth yn Galilea. |
| 12 |
| A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml, ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod. |
| 13 |
| Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef. Eithr chwi ydych yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr. |
| 14 |
| A'r deillion a'r cloffion a ddaethant ato yn y Deml, ac efe a'u hiachaodd hwynt. |
| 15 |
| A phan welodd yr Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant ag oeddynt yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, hwy a sorasant, |
| 16 |
| ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist foliant? |
| 17 |
| Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r Ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno. |
| 18 |
| Ac yn foreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r Ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. |
| 19 |
| A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. |
| 20 |
| A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! |
| 21 |
| A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Os oes genych ffydd, ac heb betruso, ni wnewch yn unig yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; a hyny a fydd. |
| 22 |
| A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch. |
| 23 |
| Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon? |
| 24 |
| A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: |
| 25 |
| Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? |
| 26 |
| Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd. |
| 27 |
| A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. |
| 28 |
| Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan. |
| 29 |
| Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth. |
| 30 |
| Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe. |
| 31 |
| Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi. |
| 32 |
| Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef. |
| 33 |
| Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall. |
| 34 |
| A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau. |
| 35 |
| A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. |
| 36 |
| Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. |
| 37 |
| Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab. |
| 38 |
| Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef. |
| 39 |
| Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. |
| 40 |
| Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny? |
| 41 |
| Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau. |
| 42 |
| A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaethpwyd yn ben congl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni. |
| 43 |
| Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi. |
| 44 |
| A'r hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch. |
| 45 |
| A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe. |
| 46 |
| A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/matthew/021.mp3
28
21