A'R 1567
|
| 1 |
| AC e ðarvu, gwedy i’r Iesu ’orphen y gairie hyn oll, ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon, |
| 2 |
| Chwi wydddoch, mae o vewn y ðauddydd y mae ’r Pasc a’ Map y dyn a roddir y’w groci. |
| 3 |
| Yno ydd ymgynnullawdd yr Archoffeiriait a’r Scrivennyddion, a’ Henyddion y popul i nauað yr Archoffeiriat, a elwit Caiaphas |
| 4 |
| ac a ymgyggoresont py vodd y dalient yr Iesu trwy vrad, a’ ei ladd. |
| 5 |
| Eithyr wynt a ddywetsōt, Nyd ar yr ’wyl, rac bod cynnwrf ym‐plith y popul. |
| 6 |
| Ac val yð oedd yr Iesu ym‐Bethania yn-tuy Simon ’ohanglaf, |
| 7 |
| e ddaeth ataw wreic, ac gyd a hi vlwch o irait gwerthvawr, ac ei tywalldawdd ar ei benn, ac ef yn eistedd wrth y vort. |
| 8 |
| A’ phan weles ei ddiscipulon, wy a sorasont, gan ddywedyt, Pa rait y gollet hon? |
| 9 |
| can ys ef al’esit gwerthy er irait hwn er l’awer, a’i roddi ef ir tlotion. |
| 10 |
| A’r Iesu a wybu, ac a ddyvot wrthwynt, Paam ydd ych yn molesty yr wreic? can ys hi a weithiawdd weithret ða arnaf. |
| 11 |
| Can ys y tlodion a gewch yn wastat yn eich plith, a’ myvy ny’s cewch yn oystat gyd a chwi. |
| 12 |
| Can ys lle y tywalltawdd hi yr irait hwn ar vyg‐corph, er mwyn vy‐claðedigaeth hi gwnaeth. |
| 13 |
| Yn wir ydywedaf wrthych, Pa le bynac y precether yr Euangel hon yn yr oll vyt, hyn yma hevyt a wnaeth hi, a venegir er coffa am denei, |
| 14 |
| Yno yr aeth vn o’r dauddec, yr hwn a elwit Iudas Iscariot, at yr Archoffeiriait, |
| 15 |
| ac a ddyvot vvrthynt, Pabeth a rowch i mi, a’ mi y rroddaf ef y‐chwy? Ac wy a’ osodesont iddaw ddec arugain o ariant. |
| 16 |
| Ac o hynny allā, y caisiawdd ef amser‐cyfaddas yw vradychy ef. |
| 17 |
| Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara‐ croew, y discipulon a ðaethant at yr Iesu gan ddywedyt wrthaw, P’le y myny i ni paratoi iti y vwyta ’r Pasc? |
| 18 |
| Ac yntef a ddyuot, Ewch ir dinas at ryw vn, a dywedwch wrthaw, Yr athro a ddywait, Vy amser ys ydd agos, cyd a thi y cynhaliaf, y Pasc mi am discipulon. |
| 19 |
| A’r discipulon a wnaethant mal y gorchmynesei ’r Iesu yddwynt, ac a paratoesont y Pasc. |
| 20 |
| Ac gwedy ei mynet hi yn hwyr, ef a eisteddawdd i lawr gyd a’r dauddec. |
| 21 |
| Ac mal ydd oeðēt yn bwyta, y dywedawð, Yn wir y doedaf wrthych, y bradycha vn o hanawch vyuy. |
| 22 |
| Yno yr aethant yn athrist dros ben, ac a ddechraesont bop‐vn ddywedyt wrthaw. Ac myvi Arglwydd? |
| 23 |
| Ac ef a atepawdd ac a ddyvot, Yr hwn a drocha ei law gyd a mi yn y ðescil, hwn a’m bradycha. |
| 24 |
| Diau Map y dyn a gerdda, mal y mae yn ercrivenedic o hanaw, anid gwae ’r dyn hwnaw, trwy ’r hwn y bradycher Map y dyn: ys da vesei ir dyn hwnaw, pe na’s genesit erioet. |
| 25 |
| Yno Iudas yr hwn y bradychawdd ef, a atepawdd ac a ddyvot, Ai myvi yw ef, Athro? Ef a ddyvot wrthaw, Ty ei dywedaist. |
| 26 |
| Ac val yr oeddynt yn bwyta, e gymerth yr Iesu ’r bara: a’ gwedy iddaw vendithiaw, ef ei torawdd, ac ei roddes ir discipulon, ac a ddyvot, Cymerwch, bwytewch: hwnn yw vy‐corph. |
| 27 |
| Ac ef a gymerth y cwpa n, a’ gwedy iddo ddiolch, ef ei rhoddes yddynt, can ddywedyt, Yfwch oll o hwn. |
| 28 |
| Can ys hwn yw vy‐gwaet o’r testament Newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddauant pechotae. |
| 29 |
| Mi ddywedaf wrthych, nad yfwyf o hynn allan o’r ffrwyth hwn y wynwydden yd y dydd hwnw, pan ydd yfwyf ef yn newydd gyd a chwi yn‐teyrnas vy‐Tad. |
| 30 |
| A’ gwedy yddwynt canu psalm, ydd aethant allan i vonyth Olivar. |
| 31 |
| Yno y dyvot yr Iesu yr wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m pleit i: canys escrivenedic yw, Trawaf y bugail, a’ deveit y vagat a ’oyscerir. |
| 32 |
| Eithyr gwedy ’r adgyvodwyf, ir af och blaen ir Galilea. |
| 33 |
| Ac Petr atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, Pe rhan i bawp ac ymrwystro oth pleit ti, eto ni ’im rhwystrir i byth. |
| 34 |
| Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf wrthyt, mae yr nos hon, cyn canu yr ceilioc, i’m gwedy deirgwaith. |
| 35 |
| Petr a ðyvot wrthaw, Pe gorvyddei i mi varw gyd a thi, eto ny’th wadaf. Ar vn modd hefyt y dyvot yr oll ddiscipulon. |
| 36 |
| Yno ydd aeth yr Iesu gyd ac wynt i van a elwit Gethsemane, ac a ddyvor wrth y discipulon. Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddiaw accw. |
| 37 |
| Ac ef a gymerth Petr, a’ dau‐vap Zebedeus ac a ðechreawð tristau, ac ymovidiaw yn tost. |
| 38 |
| Yno y dyvot yr Iesu wrthynt, Trist iawn yw vy enait ys yd angae, Aro s wch yma, a’ gwiliwch gyd a mi. |
| 39 |
| Ac ef aeth ychydic pellach, ac a gwympodd ar ei wynep, ac y weddyawdd, can ddywedyt, Vy‐Tad, a’s gellir, aed y cwpa n hwn ywrthyf: na vyddet hagen, yn ol vy ewyllys i, anid yn ol dy ewyllys di. |
| 40 |
| Yno y daeth at y discipulon, ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ddyvot wrth Petr, Paam? a ny allech’ wiliaw vn awr gyd a mi? |
| 41 |
| Gwiliwch, a’ gweðiwch rac eich myned ym‐provedigaeth: diau vot yr yspryt yn parat, eithyr y cnawt ys ydd ’wan. |
| 42 |
| Ef aeth trachefn yr ailwaith ac a weddiawð, can ddywedyt Vy‐Tat, any’s gall y cwpa n hwn vynet y wrthyf, eb orvod i mi ei yvet, byddet dy ewyllys. |
| 43 |
| Ac ef a ddeuth, ac y cavas wy yn cyscu trachefyn: can ys ei llygait wy oedd drymion, |
| 44 |
| Ac ef ei gadawodd wy ac aech ymaith drachefyn, ac a weddiawdd y trydeð waith, can ddywedyt yr vn gairiae. |
| 45 |
| Yno y daeth ef at ei discipulon, ac a ddyvot wrthynt, Cuscwch bellach a’ gorphwyswch: nycha, mae’r awr wedy nesay, a’ Map y dyn a roddir yn‐dwylaw pechaturieit. |
| 46 |
| Cyvodwch, awn: nycha, y mae geyr llaw yr hwn a’m bradycha. |
| 47 |
| Ac ef eto yn dywedyt hyn, nycha, Iudas, vn or dauddec yn dyvot a’ thorf vawr cyd a’ ef a chleddyvae a’ ffynn, ywrth yr Archoffeiriait a’ henurieit y popul. |
| 48 |
| A’ hwn aei bradychawdd ef, a royðesei arwydd yddynt, can ddywedyt, Pwy’n bynac a gysanwyf, hwnw ytyw, deliwch ef. |
| 49 |
| Ac yn ebrwydd e ddaeth at yr Iesu, ac a ddyvot, Henpych‐well Athro, ac ei cusanawð. |
| 50 |
| A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y car y ba beth y daethost? Yno y deuthant ac y roesont ddwylo ar yr Iesu, ac ei daliesant. |
| 51 |
| A’ nycha, vn or ei oedd gyd a’r Iesu, a estennawdd ei law, ac a dynnawdd ei gleddyf, ac a drawawdd was yr Archoffeiriat, ac a dorawdd ei glust ymaith. |
| 52 |
| Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Dod dy gleddyf yn ei le: can ys pawp a’r a gymerant gleddyf, a chleddyf eu collir. |
| 53 |
| Ai wyti yn tybiet, na’s gallaf yr awrhon weddiaw ar vy‐Tad, ac ef rydd i mi vwy na dauddec lle n g o Angelion? |
| 54 |
| Can hyny pa vodd y cyflawnir yr Scrythurae y ddyvvedant, y gorvydd bot velly? |
| 55 |
| Yn yr awr hono y dyvot yr Iesu wrth y durfa, Chwi a ddeuthoch allan megis at leitr a chleddyfae ac a’ ffynn im dal i: ydd oeddwn baunyð yn eistedd ac yn dyscy’r popul yn y Templ yn eich plith ac ni’m daliesoch. |
| 56 |
| A’ hyn oll awnaethpwyt, er cyflawny’r Scrythure ’r Prophwyti. Yno yr oll ddiscipulon ei gadasant, ac a giliesant. |
| 57 |
| Ac wynt a ðaliesant yr Iesu, ac aethant ac ef at Caiaphas yr Archoffeiriat, lle ydd edd yr Scrivenyddion ar Henuriait wedy’r ymgascly yn‐cyt. |
| 58 |
| Ac Petr y cynlynawdd ef o hirbell yd yn llys yr Archoffeiriat, ac aeth y mewn, ac a eisteddawdd gyd a’r gweision i weled y diben. |
| 59 |
| A’r Archoffeirieit a’r Henureit, a’r oll gymmynva y geisiesōt gaudestiolyeth yn erbyn yr Iesu, yw ddody ef i angae. |
| 60 |
| Ac ny ’s cawsant neb, ac er dyvot yno lawer gaudystion, ny chawsont chwaith. Ac o’r dywedd y deuth dau gau dystion, |
| 61 |
| ac a ddywedesont, Hwn yma a ddyvot, Mi allaf ddestcyw Templ Dduw, a’ hei adaillat mewn tri‐die vvarnot. |
| 62 |
| Yno y cyfodes yr Archoffeiriat ac a ddyvot wrthaw, A atepy di ddim? Pa peth yvv pan vo rei hyn yn testolaethy yn dy erbyn? |
| 63 |
| A’r Iesu a dawodd. Yno ydd atepawdd yr Archoffeiriat, ac a ddyvot wrthaw, Mi ath dyngaf trwy’r Duw byw, ddywedyt o hanot i ni, a’s ti ywr Christ Map Duw. |
| 64 |
| Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedeist; eithyr mi a ddywedaf wrthych, ar ol hynn y gwelwch Vap y dyn, yn eistedd ar ddeheu gallu Duvv, ac yn dawot yn wybrenae’r nef. |
| 65 |
| Yno y rhwygawdd yr Archoffeiriat ei ddillat, can ddywedyt, Ef a gablawdd: pa reit i ni mwy wrth testion? nycha, clywsoch y gabl ef. |
| 66 |
| Peth dybygwch chwi? Wy a atepesant, can ddywedyt, Mae ef yn auawc i angae. |
| 67 |
| Yno y poeresont wy yn ei wynep, ac ei cer nodiesont: ac eraill y trawsant ef a ei gwiail, |
| 68 |
| gan ddywedyt, Prophwyta i ni, Christ, pwy yw hwn ath trawodd? |
| 69 |
| Petr oedd yn eistedd hwnt yn y nauadd, ac a ddaeth morwyn ic attaw, ac a ddyvot, Ac ydd oeddyt ti y gyd ac Iesu o’r Galilea. |
| 70 |
| Ac ef a watawdd geyr ei bron wy oll, ac a ddyvot, Ny’s gwnn beth ddywedy. |
| 71 |
| A’ phan aeth ef allan ir porth, y gwelawdd morvvynic arall ef, ac a ddyvot wrth yr ei oedd ynow, Ydd oedd hwnn hefyt gyd ac Iesu o Nazaret. |
| 72 |
| A’ thrachefyn ef a’ wadawdd gan dyngu, Nyd adwaen i’r dyn. |
| 73 |
| Ac ychydic gwedy, y deuth attaw ’rei oeð yn sefyll geyr llaw, ac a ddywedesont wrth Petr, Yn wir ydd yw ti yn vn o hanwynt, can ys bot dy lediaith yn dy gyhoeddy. |
| 74 |
| Yno y drechreawdd ef ymregy, a’ thyngy, can ddyvvedyt, Nyd adwaen i’r dyn. Ac yn y man y canawdd y ceiliawc. |
| 75 |
| Yno y cofiawdd Petr ’airie ’r Iesu yr hwn a ddywedesei wrthaw, Cyn canu yr ceilioc, tu a’m gwedy deirgwaith. Yno ydd aeth ef allan ac ydd wylawdd yn dost. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/matthew/026.mp3
28
26