Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Ac yn y dyddiau hyny dyfod y mae Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn anialwch Iwdea, |
| 2 |
| gan ddywedyd, Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd: |
| 3 |
| canys Hwn yw Efe y dywedwyd am dano trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Llef un yn llefain, Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah; Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.” |
| 4 |
| A’r Ioan hwn oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. |
| 5 |
| Yna yr aeth allan atto ef Ierwshalem, a holl Iwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen; |
| 6 |
| a bedyddiwyd hwy yn yr afon Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau. |
| 7 |
| A chan weled llawer o’r Pharisheaid a’r Tsadwceaid yn dyfod i’w fedydd, dywedodd wrthynt, O eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? |
| 8 |
| Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch; |
| 9 |
| ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunan, Yn dad i ni y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r meini hyn i gyfodi plant i Abraham. |
| 10 |
| Ac eisoes y fwyall a osodwyd ar wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da a dorrir ymaith ac a deflir i’ r tân. |
| 11 |
| Myfi, yn wir, wyf yn eich bedyddio â dwfr, i edifeirwch; ond yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol i, cryfach yw na myfi, yr Hwn nid wyf deilwng i ddwyn Ei esgidiau: Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: yr Hwn y mae Ei wyntyll yn Ei law; |
| 12 |
| a llwyr-lanhâ Efe ei lawr-dyrnu, a chyd-gasgl Ei wenith i’r ysgubor, ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy. |
| 13 |
| Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo; |
| 14 |
| ond Ioan a warafunodd Iddo, gan ddywedyd, Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt Ti, ac a wyt Ti yn dyfod attaf fi? |
| 15 |
| Ond gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Gâd yn awr; canys fel hyn y mae’n weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna y gadawodd efe Iddo. |
| 16 |
| Ac wedi Ei fedyddio, yr Iesu a aeth i fynu yn uniawn o’r dwfr, ac wele, agorwyd y nefoedd Iddo, a gwelodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno Ef; |
| 17 |
| ac wele, llais o’r nefoedd yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab Anwyl, yn yr Hwn y’m Boddlonwyd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/matthew/003.mp3
28
3