Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Yn y dyddiau hynny dyma Ioan Fedyddiwr yn dyfod a phregethu yn niffeithwch Iwdea, |
| 2 |
| gan ddywedyd, “Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.” |
| 3 |
| Canys hwn yw’r un y llefarwyd amdano trwy Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef. |
| 4 |
| A’r Ioan hwnnw oedd â’i wisg o flew camel, a gwregys croen am ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. |
| 5 |
| Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen; |
| 6 |
| a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. |
| 7 |
| Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? |
| 8 |
| Dygwch, ynteu, ffrwyth teilwng o’ch edifeirwch; |
| 9 |
| ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. |
| 10 |
| Eisoes y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr, a’i daflu yn tân. |
| 11 |
| Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân; |
| 12 |
| â’i wyntyll sydd yn ei law, ac fe lwyr-lanha ei lawr dyrnu, a chasgl ei ŷd i’r ysgubor, ond yr us a lysg â thân anniffoddadwy.” |
| 13 |
| Yna dyma’r Iesu yn dyfod o Galilea hyd at yr Iorddonen at Ioan i’w fedyddio ganddo. |
| 14 |
| Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?” |
| 15 |
| Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo. |
| 16 |
| A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno; |
| 17 |
| a dyma lef o’r nefoedd yn dywedyd, “Hwn yw fy mab annwyl a ryngodd fy modd.” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/matthew/003.mp3
28
3