Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Yna yr Iesu a arweiniwyd i fynu i’r anialwch gan yr Yspryd, i’w demtio gan ddiafol. |
| 2 |
| Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd. |
| 3 |
| Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau. |
| 4 |
| Ac Yntau gan atteb a ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair yn dyfod allan trwy enau Duw.” |
| 5 |
| Yna y cymmerth diafol Ef i’r ddinas sanctaidd; |
| 6 |
| a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat, Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.” |
| 7 |
| Dywedodd yr Iesu wrtho, Etto yr ysgrifenwyd, “Ni themti yr Arglwydd dy Dduw.” |
| 8 |
| Etto y cymmerth diafol Ef i fynydd tra uchel, a dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant; |
| 9 |
| a dywedodd Wrtho, Y rhai hyn oll i Ti a roddaf, os syrthi i lawr a’m haddoli i. |
| 10 |
| Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.” |
| 11 |
| Yna y gadawodd diafol Ef; ac wele, angylion a ddaethant Atto, ac a weiniasant Iddo. |
| 12 |
| Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea; |
| 13 |
| ac wedi gadael Natsareth, daeth ac arhosodd yn Caphernahwm, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabwlwn a Nephthali; |
| 14 |
| fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, |
| 15 |
| “Tir Zabwlwn a thir Nephthali, Ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea y cenhedloedd; |
| 16 |
| Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch A welsant oleuni mawr; Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau, Goleuni a gododd iddynt.” |
| 17 |
| O’r pryd hwnw dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhêwch, canys nesaodd teyrnas nefoedd. |
| 18 |
| Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr, |
| 19 |
| a dywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol, a gwnaf chwi yn bysgodwŷr dynion. |
| 20 |
| A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef. |
| 21 |
| Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; |
| 22 |
| a galwodd hwynt; a hwy yn uniawn, gan adael y cwch a’u tad, a’i canlynasant Ef. |
| 23 |
| Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl. |
| 24 |
| Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt. |
| 25 |
| Ac yr oedd yn Ei ganlyn Ef dorfeydd mawrion o Galilea a Decapolis ac Ierwshalem ac Iwdea ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/matthew/004.mp3
28
4