Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| "Cymerwch ofal i beidio chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. |
| 2 |
| "Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. |
| 3 |
| Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud. |
| 4 |
| Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo. |
| 5 |
| "A phan fyddwch yn gweddo, peidiwch bod fel y rhagrithwyr; oherwydd y maent hwy'n hoffi gweddo ar eu sefyll yn y synagogau ac ar gonglau'r heolydd, er mwyn cael eu gweld gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. |
| 6 |
| Ond pan fyddi di'n gweddo, dos i mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gwedda ar dy Dad sydd yn y dirgel, a bydd dy Dad sydd yn gweld yn y dirgel yn dy wobrwyo. |
| 7 |
| Ac wrth weddo, peidiwch phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cnt eu gwrando am eu haml eiriau. |
| 8 |
| Peidiwch felly bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion. |
| 9 |
| Felly, gweddwch chwi fel hyn: 'Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; |
| 10 |
| deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. |
| 11 |
| Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol; |
| 12 |
| a maddau inni ein troseddau, fel yr u375?m ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn; |
| 13 |
| a phaid 'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg.' |
| 14 |
| Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. |
| 15 |
| Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi. |
| 16 |
| "A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. |
| 17 |
| Ond pan fyddi di'n ymprydio, eneinia dy ben a golch dy wyneb, |
| 18 |
| fel nad pobl a gaiff weld dy fod yn ymprydio, ond yn hytrach dy Dad sydd yn y dirgel; a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo. |
| 19 |
| "Peidiwch chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. |
| 20 |
| Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. |
| 21 |
| Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. |
| 22 |
| "Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni. |
| 23 |
| Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch! |
| 24 |
| "Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon. |
| 25 |
| "Am hynny 'rwy'n dweud wrthych, peidiwch phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad? |
| 26 |
| Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy? |
| 27 |
| Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu? |
| 28 |
| A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. |
| 29 |
| Ond 'rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain. |
| 30 |
| Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd? |
| 31 |
| Peidiwch felly phryderu a dweud, 'Beth yr ydym i'w fwyta?' neu 'Beth yr ydym i'w yfed?' neu 'Beth yr ydym i'w wisgo?' |
| 32 |
| Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd. |
| 33 |
| Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. |
| 34 |
| Peidiwch felly phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/matthew/006.mp3
28
6