A'R 1567
|
| 1 |
| GOchelwch roddy eich eluseni yngwydd dynion, er mwyn cael eich gwelet ganthwynt, anyd ef, ny chewch vv obr vvy y gan eich Tad yr hwn ’sydd yn y nefoedd. |
| 2 |
| Erwydd paam pan roddych di dy aluseni, na phar gany vtcorn geyr dy vron, mal y gwna ’r hypocritae yn ei Synagogae ac ar yr heolydd, y’w moli gan ddynion. Yn wir y dywedaf y chwi, y mae ei g vv obr ganthwynt. |
| 3 |
| Eithyr pan wneych ti dy aluseni, na wypo dy law aswy pa beth a wna dy law ddeheu, |
| 4 |
| yn y bo dy aluseni yn y dirgel, ath Tat yr hwn a wyl yn y dirgel, ath obrwya yn yr amlwc. |
| 5 |
| A’ phan weddiych di, na vydd val yr hypocritae, can ys hwy a garant sefyll, a’ gweðiaw yn y Synagogae, ac yn‐conglae yr heolydd, er mwyn cael eu gweled gan ddynion. Yn wir y dyweddaf ychwi, y mae ganthwynt ei gobr. |
| 6 |
| Ti the pan weddiych, does ith cuvicl a’ gwedy cau dy ddrws, gweddia ar dy Dat yr hwn ’syð yn dirgel edic, ath Dat yr hwn a wyl yn y dirgel, ath obrwya yn yr amlwc. |
| 7 |
| Hefyt pan weddioch, na vyddwch siaradus mal y cenetloedd: can ys tybiant y clywir wy dros ei haml ’airiae. |
| 8 |
| Am hynny na thybygwch yddynt wy: can ys‐gwyr eich Tat, pa bethae ys ydd arnochey eisiae, cyn erchi o hanoch arno. |
| 9 |
| Erwydd hyny gweddiwch chwi val hyn. Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy Enw. |
| 10 |
| Dauet dy deyrnas. Byddet dy ewyllys ys ar y ddaiar megis yn y nefoedd. |
| 11 |
| Dyro y ni heddyw ein bara beunyddiol. |
| 12 |
| A’ maddae i ni ein dledion, mal y maddeu ni ne i’n dyledwyr. |
| 13 |
| Ac na g arwein ni ym‐provedigaeth eithyr gwared ni rhac drwc: can ys yti ymae y deyrnas, a’r nerth, ar gogoniant yn oes oesoed,. |
| 14 |
| O bleit a’s maddeuwch i ddynion ei sarhaedae, eich Tad nefawl a vaddeu hefyt i chwitheu. |
| 15 |
| Eithyr a ny uaddeuoch i ddynion ei sarhaedae, ac ny vadae eich Tad i chvvi the eich sarhaedae. Yr Euangel y dydd cyntaf or Grawys. |
| 16 |
| ¶ Hefyt pan vmprytioch, na vyddwch vvynep soric val hypocritait: can ys anffurfyaw ei h’wynepae y byddant, er ymdangos i ddynion, y bot wy yn vnprydiaw. Yn wir y dywedaf wrthych vot ydyn ei gobr. |
| 17 |
| Eithr pan vmprytych ty, iir dy benn, a golch dy wynep, |
| 18 |
| rac ymdangos i ddyniō dy vot yn vmprytiaw, anid ith dat yr hwn ys yd yn y cuddiedic: a’th dat yr hwn a wyl yn y cuddiedic: a dal y ty yn y golae. |
| 19 |
| ¶ Na chesclwch dresore y chwy ar y ddaear, lle mae yr pryf a rhwt yn ei llygry, a’ lle mae llatron yn cloddiaw trywodd, ac yn ei llatrata. |
| 20 |
| Eithyr cesclwch yw’ ch tresore yn y nef, lle ny’s llygra’r pryf na rhwt, a’ lle ny’s cloddia r llatron trywodd ac ny’s llatratant. |
| 21 |
| Can ys lle mae eich tresawr, yno y bydd eich calon hefyt. |
| 22 |
| ¶ Golauni ’r corph ywr llygat: wrth hyny a byð dylygat yn sym p l, e vyð dy hollgorph yn olau. |
| 23 |
| Eithyr a’s bydd dy lygad yn ddrwc, e vydd dy oll gorph yn dywyll. Erwydd paam a’s bydd y goleuni ys ydd ynot, yn dywyll, pa veint yw’r tywyllwch hwnaw? Yr Euangel y xv. Sul gvvedi Trintot. |
| 24 |
| ¶ Ny ddychon nep wasanaethy dau Arglwyð: can ys ai ef a gasaa’r naill, ac a gar y llall, ai ef a ymlyn wrth y n’aill, ac a escaelusa yr llall. Ny ellwch wasanethu Duw a’ golud‐ bydol. |
| 25 |
| Can hynny y dywedaf yw’ch, na ovelwch am eich bywyt pa beth a vwytaoch, ai pa beth a yvoch: na’c am eich cyrph, pa beth a wiscoch: any d yw’r bywyt yn vwy na’r bwyt? a’r corph yn vvvy na’r dillat? |
| 26 |
| Edrychwch ar chediait y nef can na heyant, ac ny’s metant, ac ny chywenant i’r yscuporiae: ac y mae eich Tat nefawl yn y porthy wy. Any d y‐chwi well o lawer nac yntwy? |
| 27 |
| A’ phwy o hanoch cyd govalo, a ddychon angwanegy vn cuvydd at ei vaint? |
| 28 |
| A’ pha am y govelwch am dillat? Dyscwch pa wedd y mae’r lili’r maes yn tyfu: ny thravaeliant, ac ny nyddant: |
| 29 |
| a’ dywedaf wrthych na bu Selef yn ei oll ’ogoniant mor trwsiadus ac vn o’r ei hyn. |
| 30 |
| Can hynny a’s dillada Duw lysaeū y maes, yr hwnn ys ydd heðyw, ac yvory a vwrir i’r ffwrn, a ny’ s gvvna vwy o lawer erochwi, yr ei a’r ychydic ffydd? |
| 31 |
| Am hyny na’ ovelwch, can ddywedyt, Beth a vwytawn? ai beth a yvwn? ai a pha beth ymddilladwn? |
| 32 |
| (Can ys am y pethae hynn oll yr ymovyn y Cenetloedd) o bleit e wyr eich Tat nefol, vot arnoch eisiae yr oll pethae hyn. |
| 33 |
| Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Duw a ei chyfiawnder, a’r oll pethae hynn a roddir ychwy. |
| 34 |
| Ac na ovelwch dros dranoeth: can ys tranoeth a ovala drosto e h unan. Digon i ddiernot y ddrwc e h un. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/matthew/006.mp3
28
6