Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi. |
| 2 |
| 3 |
| A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di? |
| 4 |
| Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di? |
| 5 |
| Ragrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn o lygad dy frawd. |
| 6 |
| Na rowch y peth sy santaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi. |
| 7 |
| Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. |
| 8 |
| Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir. |
| 9 |
| Neu ba ddyn sydd ohonoch, y gofyn ei fab iddo am dorth, — a ddyry garreg iddo? |
| 10 |
| neu os gofyn iddo am bysgodyn, — a ddyry sarff iddo? |
| 11 |
| Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo? |
| 12 |
| Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi. |
| 13 |
| Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi; |
| 14 |
| canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi. |
| 15 |
| Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus. |
| 16 |
| Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall? |
| 17 |
| Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael. |
| 18 |
| Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da. |
| 19 |
| Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. |
| 20 |
| Gan hynny wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. |
| 21 |
| Nid pob un sy’n dywedyd wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond y neb a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd. |
| 22 |
| Llawer a ddywed wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw, a bwrw allan gythreuliaid yn dy enw, a gwneuthur grymusterau lawer yn dy enw?’ |
| 23 |
| Ac yna y cyfaddefaf wrthynt, ‘Ni’ch adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, weithredwyr anghyfraith.’ |
| 24 |
| Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig; |
| 25 |
| a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd, a syrthiasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ef ar y graig. |
| 26 |
| A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; |
| 27 |
| a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a churasant ar y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.” |
| 28 |
| A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn fe synnai’r torfeydd at ei ddysgeidiaeth; |
| 29 |
| canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion hwy. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/matthew/007.mp3
28
7