×

A'R 1567

Mathew 8

1
A Gwedy y ðyvot ef y waret o’r mynydd, llawer o bopul oedd ei dylynawdd.
2
A’ nycha, vn clafgohanawl a ddeuth ac ei addolawdd, cann ddywedyt, Arglwydd a’s mynny, ti elly vy‐glanhay.
3
A’r Iesu a estennawdd ei law, ac ei cyhurddawdd ef, gan ddywedyt, Mynaf, glanhaer di: ac yn y van y ’ohanglwyf ef a ’lanhawyt.
4
Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Gwyl na ddywetych wrth nep, eithr dos, ac ymddagos ir Offeiriat, ac offryma y rhodd a orchymynawdd Moysen, er testoliaeth yddwynt.
5
Gwedy dyvot yr Iesu i Capernaum, y daeth attaw Gan t wriad gan ddeisyf y arnaw,
6
a’ dywedyt, Arglwydd, y mae vy‐gwas i yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr.
7
A’r Iesu a ddyfot wrthaw, Mi a ddeuaf ac ei gwnaf ef yn iach.
8
A’r Cannwriad aei atepawdd, can ddywedyt, Arglwydd, nyd wyf vi dailwng y ddawot o hanot y dan vy‐ cronglwyr; eithyr yn vnic dywait y gair, ac ef a iacheir vy‐gwas i.
9
Can ys dyn wyf vinae y dan awturtot vn arall, ac y mae genyf vilwyr y danaf: a’ dywedaf wrth hwn, Cerða: ac efe a, ac wrth arall, Dyre d: ac e ðaw, ac wrth vy‐gwas, Gwna hyn; ac ef ei gwna.
10
Pan glywodd yr Iesu hyn, e ryfeddawd, ac a ðyvot, wrth yr ei oedd yn ei ganlyn, Yn wir, y dywedaf wrthych, Ny chefais gymeint ffydd, na’c yn yr Israel.
11
A’ mi a ddywedaf wrthych, y daw llawer o’r Dwyrein a’r Gorllewyn, ac a eisteddāt gyd ac Abraham, ac Isaac, ac Iaco b yn‐teyrnas nefoedd.
12
A’ phlant y deyrnas a davlir ir tywyllwch eithaf: ynow y bydd wylofain a’ riccian dannedd.
13
Yno y dyvot yr Iesu wrth y Can t wriad, Dos ymaith, a’ megis y credeist, bit y‐ty. A’ ei was a iachawyt yn yr awr honno.
14
¶ A’ phan ddaethei ’r Iesu i tuy Petr, ef a welawdd y chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf or cryd.
15
Ac ef a gyhyrddawdd ai llaw, a’r cryd a ei gadawodd: yn y chydodd hi i vyny a’ gweini yddynt.
16
Gwedy y hwyrhay hi, wy ddugesont attavv lawer o’r ei cythraelic: ac ef a vwriawdd allan yr ysprytion a ei ’air, ac a iachaodd yr oll gleifion.
17
Yn y chyflawnit yr hyn a ðywedit trwy Iesaias y Prophwyt, can ddywedyt, Ef e a gymerth ein gwendit ni, ac a dduc ein hein t iae.
18
¶ A phan welawdd yr Iesu dorfeydd lawer oei amgylch, ef a ’orchymynawdd yddwynt vyned drosodd ir lan arall.
19
Yno y daeth ryw ’wr‐lleen, ac a ddyvot wrthaw, Athro, mi ath canlynaf i b’lebynac ydd ai.
20
Yno ’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y mae ffauae gan y llwynogot a ’chan adar y nefoedd ei nythot, an’d gan Fap y dyn nyd oes le i orphwys i ben.
21
¶ Ac vn arall o ei ddiscipulon a ddyvot wrthaw, Arglwydd, Godde i mi yn gyntaf fyned, a chlaðy vy‐tad.
22
A’r Iesu a ddyvot wrtho, Dilyn vi, a’ gad ir meirw gladdy ei meirw hvvy.
23
¶ A gwedy iddo vyned ir llong, ei ddiscipulon ei canlynodd.
24
A’ nycha, e gyfodes cynnwrf mawr yn y mor, yd pan guddit y llong gan y tonae: ac ef e oedd yn cyscu.
25
Yno y daeth ei ddiscipulon ataw, ac ei defroesant, can ddywedyt, Arglwydd, cadw ni: e ddarfu am danam.
26
Ac ef a ddyvot wrthynt, Paam ydd ofnwch, havvyr a’r ffydd vechan? Yno y codawdd ef, ac y goharddawdd ef y gwyntoedd a’r mor: ac yno ydd aeth hi yn araf hin.
27
A’r dynion a ryvedodd, gan ddywedyt Pa ryw vvr yw hwn, pan vo’r gwyntoedd ar mor yn uvyddhay yddaw?
28
A’ gwedy ei ddawot ef ir lan arall, i wlat y Gergesieit, e gyfarfu ac ef ddau a diavleit ynthwynt, yr ei a ddaethen o’r monwenti yn dra ffyrnicion, mal na allai vn‐dyn vyned y ffordd honno.
29
A’ nycha, llefain awnaethant, gan ddywedyt, Iesu vap Duw, beth y sy i ni a wnelom a thi? A ddaethast ti yma in poeni cyn yr amser?
30
Ac ydd oedd ym‐pell o ywrthynt genvaint o voch lawer yn pori.
31
A’r diavleit a ddeisyfesont arnaw, gan ddywedyt, A’s bwry ni allan, gad i ni vynet i’r genvaint voch.
32
Ac ef a ddyvot wrthynt, Ewch. Ac wy aethant allan, ac aethant ir genvaint voch: a’ nycha, yr oll genvaint voch a ymdreiglei dros y dibin i’r mor, ac a vuō veirw yn y dyfr edd.
33
Yno y ffoawdd y meichiait: a’ gwedy y dyvot hwy i’r dinas, menegy a wnaethant pop peth, a’ pha beth a ddarfesei ir ei oedd y diavleit ynthwynt.
34
A’ nycha, yr oll ddinas a ddaeth allan, y gyvarvot a’r Iesu: a’ phan ei gwelsont, atolugy a wnaeehant iddaw, ymadel oei teruyneu.
Welsh Bible 1567
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016
:
Cadw Nodiadau