Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur. |
| 2 |
| A gwyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau. |
| 3 |
| Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw? |
| 4 |
| Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch, |
| 5 |
| ond yn ol dy galedrwydd a’ th galon ddiedifeiriol yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, |
| 6 |
| yr hwn a dal i bob un yn ol ei weithredoedd, |
| 7 |
| sef i’r rhai sydd trwy amynedd yng ngweithred dda yn ceisio gogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragywyddol; |
| 8 |
| ond i’r rhai cynhenus ac yn anufudd i’r gwirionedd, ond yn ufudd i anghyfiawnder, |
| 9 |
| y bydd digofaint a llid, trallod ac ing ar bob enaid dyn sy’n gweithredu yr hyn sy ddrwg, |
| 10 |
| yr Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sy’n gweithredu yr hyn sy dda, |
| 11 |
| i’ r Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd, canys nid oes derbyn gwyneb gyda Duw. |
| 12 |
| Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’ r Gyfraith y bernir hwynt, |
| 13 |
| canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir. |
| 14 |
| Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt, |
| 15 |
| ydynt gyfraith iddynt eu hunain; y rhai sy’n dangos gwaith y Gyfraith wedi ei ysgrifenu yn eu calonnau, eu cydwybod hwy yn cyd-dystiolaethu; a’u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd pan y barna Duw y pethau cuddiedig gan ddynion, |
| 16 |
| yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist. |
| 17 |
| A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith, |
| 18 |
| ac yn ymffrostio yn Nuw, ac yn gwybod Ei ewyllys, ac yn darbod y pethau rhagorol, wedi dy ddysgu o’r Gyfraith; |
| 19 |
| yn coelio dy hun yn dywysog i’ r deillion, yn oleuni i’ r rhai mewn tywyllwch, yn ddiwygiwr ynfydion, |
| 20 |
| yn ddysgawdwr y rhai bach; a chenyt ffurf gwybodaeth a’r gwirionedd yn y Gyfraith; |
| 21 |
| yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt? |
| 22 |
| Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt? |
| 23 |
| Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt? |
| 24 |
| canys enw Duw, o’ch plegid chwi y’i ceblir ym mhlith y cenhedloedd, fel y mae yn ysgrifenedig. |
| 25 |
| Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad. |
| 26 |
| Os y diamdorriad, gan hyny, a geidw ddeddfau’r Gyfraith, oni fydd i’w ddiamdorriad ef ei gyfrif yn amdorriad, |
| 27 |
| a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith? |
| 28 |
| Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iwddew, na’r hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd sydd amdorriad; |
| 29 |
| eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/romans/002.mp3
16
2