Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Gan hynny diesgus wyt ti, ddyn, pwy bynnag wyt sy’n barnu; oblegid yn y peth y berni arall yr wyt yn dy gondemnio dy hun, canys yr wyt ti, y barnwr, yn gwneuthur yr un pethau. |
| 2 |
| A gwyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd ar y sawl a wna’r cyfryw bethau. |
| 3 |
| Ac a dybi di hyn, ddyn, tydi sy’n barnu’r sawl a wna’r cyfryw bethau, a thithau yn eu gwneuthur, y dihengi di rhag barn Duw? |
| 4 |
| Neu a ddirmygi di olud ei diriondeb, a’i oddefgarwch, a’i hirymaros, heb wybod bod tiriondeb Duw yn d’arwain di i edifeirwch? |
| 5 |
| Ond drwy dy galedwch a’th galon ddiedifar trysori yr wyt i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, |
| 6 |
| yr hwn a ddyry i bob un yn ôl ei weithredoedd; |
| 7 |
| i’r naill, yn ddygn mewn gwaith da, a gais ogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragwyddol; |
| 8 |
| i’r lleill, y cynhennus ac anufudd i’r gwirionedd ond ufudd i anghyfiawnder, |
| 9 |
| bydd digofaint a llid, gorthrymder a chyfyngder ar bob enaid o ddyn a gyflawna’r peth sy ddrwg, Iddew yn gyntaf, a Groegwr; |
| 10 |
| eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un a wna’r peth sy dda, Iddew yn gyntaf, a Groegwr. |
| 11 |
| Canys nid oes derbyn wyneb gyda Duw. |
| 12 |
| Oblegid cynifer ag a bechodd heb ddeddf, heb ddeddf a gollir hefyd; a chynifer ag a bechodd dan ddeddf, wrth ddeddf a fernir; |
| 13 |
| canys nid gwrandawyr deddf sy gyfiawn gyda Duw, ond gweithredwyr deddf a gyfiawnheir. |
| 14 |
| Oherwydd pan fo Cenhedloedd nad oes deddf ganddynt yn gwneuthur wrth natur bethau’r ddeddf, hwynt-hwy, heb ddeddf ganddynt, sy ddeddf iddynt eu hunain, |
| 15 |
| y rhai a ddengys waith y ddeddf yn ysgrifenedig ar eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystio, a’u rhesymau rhyngddynt a’i gilydd yn cyhuddo neu efallai yn amddiffyn; |
| 16 |
| yn y dydd y barn Duw gudd bethau dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist. |
| 17 |
| Ond tydi, os Iddew yr enwir di, a gorffwys ohonot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw, |
| 18 |
| a gwybod ei ewyllys, a chymeradwyo’r pethau sy’n rhagori, am dy hyfforddi o’r ddeddf, |
| 19 |
| a chennyt hyder amdanat dy hun, dy fod yn arweinydd deillion, yn oleuni’r sawl sy mewn tywyllwch, |
| 20 |
| yn ddisgyblydd rhai angall, yn athro rhai bach, am fod gennyt yn y ddeddf gynllun gwybodaeth a gwirionedd, |
| 21 |
| ti, ynteu, sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? Ti, sy’n pregethu na ladrater, a ladreti di? |
| 22 |
| Ti, sy’n dywedyd na odineber, a odinebi di? Ti, sy’n ffieiddio eilunod, a ysbeili di demlau? |
| 23 |
| Ti, sy’n ymffrostio mewn deddf, a ddianrhydeddi di Dduw trwy droseddu’r ddeddf? |
| 24 |
| Canys enw Duw o’ch achos chwi a geblir ymhlith y cenhedloedd, fel yr ysgrifennwyd. |
| 25 |
| Buddiol yn ddiau yw enwaediad, os cedwi ddeddf, ond os troseddwr deddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. |
| 26 |
| Os bydd i’r dienwaediad, felly, gadw ordeiniadau’r ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad yn enwaediad? |
| 27 |
| A’r dienwaediad wrth natur, drwy gyflawni’r ddeddf, a’th farn di, sydd gyda’th lythyren a’th enwaediad yn droseddwr deddf. |
| 28 |
| Canys nid yr Iddew oddi allan sydd Iddew, ac nid yr enwaediad oddi allan mewn cnawd sydd enwaediad; |
| 29 |
| yn hytrach yr Iddew oddi mewn sydd Iddew, ac enwaediad calon, mewn ysbryd nid mewn llythyren, sydd enwaediad, a’i glod, nid o ddynion ond o Dduw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/002.mp3
16
2