Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Pa ragoriaeth gan hynny sydd i'r Iddew? neu pa fudd sydd o'r enwaediad? |
| 2 |
| Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. |
| 3 |
| Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? |
| 4 |
| Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner. |
| 5 |
| Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) |
| 6 |
| Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? |
| 7 |
| Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur? |
| 8 |
| Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn. |
| 9 |
| Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod; |
| 10 |
| Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: |
| 11 |
| Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. |
| 12 |
| Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. |
| 13 |
| Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: |
| 14 |
| Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: |
| 15 |
| Buan yw eu traed i dywallt gwaed: |
| 16 |
| Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: |
| 17 |
| A ffordd tangnefedd nid adnabuant: |
| 18 |
| Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. |
| 19 |
| Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae'r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo'r holl fyd dan farn Duw. |
| 20 |
| Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy'r ddeddf y mae adnabod pechod. |
| 21 |
| Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a'r proffwydi; |
| 22 |
| Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: |
| 23 |
| Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; |
| 24 |
| A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: |
| 25 |
| Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; |
| 26 |
| I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. |
| 27 |
| Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. |
| 28 |
| Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. |
| 29 |
| Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r Cenhedloedd hefyd: |
| 30 |
| Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha'r enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd. |
| 31 |
| Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau'r ddeddf. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/romans/003.mp3
16
3