Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd? |
| 2 |
| Canys, os Abraham trwy weithredoedd a gyfiawnhawyd, y mae ganddo fatter ymffrost, |
| 3 |
| eithr nid tua Duw, canys pa beth y mae’r Ysgrythyr yn ei ddweud? “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” |
| 4 |
| Ac i’r hwn sy’n gweithio, y gwobr ni chyfrifir o ras, eithr o ddyled; |
| 5 |
| ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol, |
| 6 |
| cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd, |
| 7 |
| “Dedwydd y rhai y maddeuwyd eu hanghyfreithderau, Ac y gorchuddiwyd eu pechodau; |
| 8 |
| Dedwydd y gŵr i’r hwn ni chyfrif Iehofah bechod.” |
| 9 |
| Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn, |
| 10 |
| Cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwyd hi? Ai pan yn yr amdorriad yr ydoedd, neu yn y di-amdorriad? Nid yn yr amdorriad, eithr yn y di-amdorriad. |
| 11 |
| Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad, |
| 12 |
| fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’ r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad, |
| 13 |
| Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd. |
| 14 |
| Canys os y rhai sydd o’r Gyfraith ydynt etifeddion, gwaghawyd ffydd, a dirymwyd yr addewid: |
| 15 |
| canys y Gyfraith, digofaint a weithia hi; ond lle nad oes Cyfraith nid oes trosedd. |
| 16 |
| O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, |
| 17 |
| yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent; |
| 18 |
| yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.” |
| 19 |
| Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah; |
| 20 |
| ond tuag at addewid Duw nid ammheuodd trwy anghrediniaeth, eithr nerthwyd ef trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, |
| 21 |
| ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef: |
| 22 |
| ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 23 |
| Ac nid ysgrifenwyd er ei fwyn ef yn unig, “Y cyfrifwyd iddo,” |
| 24 |
| eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr Hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw, |
| 25 |
| yr hwn a draddodwyd o achos ein camweddau, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/romans/004.mp3
16
4