Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Beth, gan hynny, a ddywedwn i Abraham, ein cyndad yn ôl y cnawd, ei ennill? |
| 2 |
| Oblegid os o weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, y mae iddo ymffrost, ond nid gerbron Duw. |
| 3 |
| Oherwydd beth a ddywed yr Ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 4 |
| Ond i’r neb a weithia ni chyfrifir ei gyflog yn ffafr eithr yn ddyled; |
| 5 |
| ond i’r neb ni weithreda, eithr a gred yn yr hwn sy’n cyfiawnhau’r annuwiol, cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder, |
| 6 |
| megis y dywed Dafydd hefyd am wynfyd y dyn y cyfrif Duw iddo gyfiawnder ar wahân i weithredoedd: |
| 7 |
| Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd iddynt eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau. |
| 8 |
| Gwyn ei fyd y gŵr ni chyfrif yr Arglwydd byth bechod iddo. |
| 9 |
| Y gwynfyd hwn, yn awr, ai i’r enwaediad y mae ai i’r dienwaediad hefyd? Oherwydd dywedyd yr ydym: Cyfrifwyd i Abraham ffydd yn gyfiawnder. |
| 10 |
| Pa fodd, ynteu, y cyfrifwyd? Ai iddo yn enwaededig neu yn ddienwaededig? Nid enwaededig, ond dienwaededig; |
| 11 |
| a derbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd a oedd ganddo yn ddienwaededig, fel y byddai ef dad pawb a gred o’r dienwaediad, fel y cyfrifid iddynt gyfiawnder, |
| 12 |
| a thad yr enwaediad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r enwaediad, ond sydd hefyd yn cerdded llwybrau ffydd ein tad Abraham, ac yntau’n ddienwaededig. |
| 13 |
| Canys nid drwy ddeddf y bu’r addewid i Abraham nac i’w had, ei fod ef yn etifedd byd, ond drwy gyfiawnder ffydd. |
| 14 |
| Canys os y rhai sydd o ddeddf sydd etifeddion, gwnaed ffydd yn ddi-fudd a’r addewid yn ddi-rym, |
| 15 |
| canys gweithreda’r ddeddf ddigofaint; ond lle nid oes deddf, nid oes trosedd. |
| 16 |
| Oherwydd hyn y bu o ffydd, fel y byddai yn ôl gras, er mwyn i’r addewid fod yn sicr i’r holl had, nid i’r rhai sydd o’r ddeddf yn unig, ond hefyd i’r neb sydd o ffydd Abraham — yr hwn yw ein tad ni oll |
| 17 |
| (fel yr ysgrifennwyd: Yn dad cenhedloedd lawer y gosodais di) — gerbron Duw, yr hwn y credodd iddo, y Duw a fywha’r meirw, ac a eilw ar bethau nad ydynt fel pe byddent; |
| 18 |
| hwn, ar bwys gobaith a gredodd yn erbyn gobaith, fel y delai yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl a ddywedwyd: Felly y bydd dy had di; |
| 19 |
| a heb wanhau yn ei ffydd gwybu farweiddio ei gorff ei hun, gan ei fod ynghylch can mlwydd oed, a marw bru Sara, |
| 20 |
| eto yn wyneb addewid Duw ni phetrusodd trwy anghrediniaeth, ond ymgryfhaodd trwy ei ffydd, a rhoddodd ogoniant i Dduw, |
| 21 |
| yn llawn sicrwydd ei fod yn abl i gyflawni hefyd yr hyn a addawodd. |
| 22 |
| Ac oherwydd hyn fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 23 |
| Eithr nid ysgrifennwyd cyfrifwyd iddo, ac ef yn unig mewn golwg, |
| 24 |
| ond a ninnau hefyd y rhai y byddir yn cyfrif iddynt, sy’n credu ynddo ef a gododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw, |
| 25 |
| yr hwn a draddodwyd oherwydd ein camweddau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/004.mp3
16
4