Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, |
| 2 |
| yr hwn y cawsom drwyddo ein mynediad hefyd mewn ffydd i’r gras hwn y safwn ynddo, ac ymffrostiwn mewn gobaith am ogoniant Duw. |
| 3 |
| Ac nid hynny’n unig, eithr ymffrostiwn hefyd yn ein gorthrymderau, gan wybod bod gorthrymder yn cynhyrchu amynedd, |
| 4 |
| ac amynedd brofiad, a phrofiad obaith; |
| 5 |
| a’r gobaith hwn ni sioma, oherwydd tywallt cariad Duw yn ein calonnau, trwy’r Ysbryd Glân a roddwyd i ni. |
| 6 |
| Canys Crist, a ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros annuwiolion. |
| 7 |
| Canys prin y bydd neb farw dros un cyfiawn; dros ddyn da efallai y beiddiai un hyd yn oed farw; |
| 8 |
| ond fe brawf Duw ei gariad ei hun tuag atom, gan i Grist, a ni eto yn bechaduriaid, farw trosom. |
| 9 |
| Mwy o lawer, ynteu, a ni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed, yr achubir ni trwyddo ef rhag y digofaint. |
| 10 |
| Canys os cymodwyd ni, a ni yn elynion, â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymodi, yr achubir ni trwy ei fywyd ef; |
| 11 |
| ac nid hynny’n unig, ond yr ydym hefyd yn ymffrostio yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y cawsom yn awr y cymod drwyddo. |
| 12 |
| Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i mewn i’r byd a thrwy bechod farwolaeth, felly hefyd aeth marwolaeth rhagddi ar bob dyn, oherwydd i bawb bechu; |
| 13 |
| canys yr oedd pechod yn y byd cyn deddf, ond ni chyfrifir pechod heb fod deddf. |
| 14 |
| Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y sawl na phechasant yn nhebygrwydd trosedd Adda, yr hwn sydd batrwm yr un a oedd i ddyfod. |
| 15 |
| Eithr nid fel y camwedd, felly hefyd y dawn; canys os trwy gamwedd yr un y bu farw’r lliaws, mwy o lawer yr ymhelaethodd i’r lliaws ras Duw, a’r rhodd drwy ras yr un dyn Iesu Grist. |
| 16 |
| Ac nid megis trwy bechu o un y mae y rhodd; canys daeth y farn oddi wrth un i gondemniad, ond y dawn oddi wrth gamweddau lawer i gyfiawnhad. |
| 17 |
| Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y bydd i’r rhai a dderbyn helaethrwydd o ras ac o rodd cyfiawnder deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist. |
| 18 |
| Am hynny, ynteu, megis trwy un camwedd y daeth y farn i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd. |
| 19 |
| Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn. |
| 20 |
| Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras, |
| 21 |
| fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/005.mp3
16
5