Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras? |
| 2 |
| Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo? |
| 3 |
| Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni? |
| 4 |
| Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd. |
| 5 |
| Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd ei atgyfodiad, |
| 6 |
| gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus, fel na byddom gaeth i bechod mwyach. |
| 7 |
| Oblegid y mae’r marw yn rhydd oddi wrth bechod. |
| 8 |
| Ac os buom farw gyda Christ, yr ydym yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef, |
| 9 |
| am y gwyddom nad yw Crist, ac yntau wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwy; nid yw marwolaeth yn feistr arno mwy. |
| 10 |
| Canys am ei farw, i bechod y bu farw unwaith, ond am ei fyw, byw y mae i Dduw. |
| 11 |
| Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu. |
| 12 |
| Gan hynny, na theyrnased pechod yn eich corff marwol, i ufuddhau i’w chwantau, |
| 13 |
| ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw; |
| 14 |
| canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras. |
| 15 |
| Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato! |
| 16 |
| Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder? |
| 17 |
| Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo, |
| 18 |
| ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder. |
| 19 |
| Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd. |
| 20 |
| Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder. |
| 21 |
| Pa ffrwyth, ynteu, oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y cywilyddiwch yn awr o’u plegid, oblegid diwedd y rheini yw marwolaeth. |
| 22 |
| Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. |
| 23 |
| Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/006.mp3
16
6