Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Ai heb wybod yr ydych, frodyr, (canys wrth rai yn gwybod y Gyfraith yr wyf yn dywedyd,) fod y Gyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn am gymmaint o amser ag y mae efe yn fyw? |
| 2 |
| Canys y wraig ag iddi ŵr, i’r gŵr, tra yn fyw, y rhwymwyd hi gan y Gyfraith; ond os bydd marw y gŵr, rhyddhawyd hi oddiwrth gyfraith y gŵr. |
| 3 |
| Gan hyny, ynte, tra byw yw’r gŵr, godineb-wraig y gelwir hi os aiff yn eiddo gŵr arall; ond os marw fydd y gŵr, rhydd yw oddiwrth y gyfraith fel na bo yn odineb-wraig wedi myned yn eiddo gŵr arall. |
| 4 |
| Gan hyny, fy mrodyr, chwithau hefyd a’ch gwnaethpwyd yn feirw i’r Gyfraith trwy gorph Crist, fel yr eloch yn eiddo un arall, yr Hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw. |
| 5 |
| Canys pan oeddym yn y cnawd, y gwyniau pechadurus, y rhai sydd trwy’r Gyfraith, a weithient yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; |
| 6 |
| ond yn awr y’n rhyddhawyd oddiwrth y Gyfraith, wedi ein meirw i’r peth y’n hattelid ynddo, fel mai gwasanaethu yr ydym yn newydd-deb buchedd, ac nid yn hendra y llythyren. |
| 7 |
| Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Y Gyfraith sydd bechod? Na atto Duw; eithr pechod nid adnabum, oddi eithr trwy’ r Gyfraith; canys trachwant nid adnabuaswn |
| 8 |
| oddieithr i’r Gyfraith ddywedyd, “Ni thrachwanti;” ond wedi cymmeryd achlysur, pechod a weithiodd ynof, trwy’r Gyfraith, |
| 9 |
| bob trachwant; canys yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae pechod yn farw. Ac myfi a fu’m fyw unwaith yn wahan oddiwrth y Gyfraith; ond wedi dyfod y gorchymyn, pechod a adfywiodd, ac myfi a fu’m farw; |
| 10 |
| a chafwyd y gorchymyn genyf, yr hwn oedd i fywyd, i farwolaeth; |
| 11 |
| canys pechod, wedi cymmeryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd; a thrwyddo ef y’m lladdodd. |
| 12 |
| Felly y Gyfraith, sanctaidd yw; a’r gorchymyn yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac yn dda. |
| 13 |
| Ai’r hyn sydd dda, gan hyny, a aeth yn farwolaeth i mi? Na atto Duw: eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio, trwy’r hyn sydd dda, farwolaeth i mi —, fel yr elai pechod yn bechadurus dros fesur trwy’r gorchymyn. |
| 14 |
| Canys gwyddom fod y Gyfraith yn ysprydol; ond myfi, cnawdol wyf, wedi fy ngwerthu dan bechod; |
| 15 |
| canys yr hyn yr wyf yn ei weithredu, nis gwn ef, canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneud; eithr yr hyn sydd gas genyf, hwnw yr wyf yn ei wneuthur. |
| 16 |
| Ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio yr wyf yn ei wneuthur, cydsynio â’r Gyfraith yr wyf mai da yw. |
| 17 |
| Ac yn awr, nid myfi sydd mwyach yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof; |
| 18 |
| canys gwn nad oes yn trigo ynof, hyny yw yn fy nghnawd, ddim da; canys yr ewyllysio sydd bresennol gyda mi, ond gweithredu y da nid yw; |
| 19 |
| canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, y da, yr wyf yn ei wneuthur, eithr yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, y drwg, hwnw yr wyf yn ei wneud; |
| 20 |
| ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, hwnw yr wyf yn ei wneuthur, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof. |
| 21 |
| Cenfyddaf, gan hyny, y gyfraith i mi sy’n ewyllysio gwneuthur yr hyn sy dda, mai i mi yr hyn sy ddrwg sydd bresennol; |
| 22 |
| canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ol y dyn oddimewn, |
| 23 |
| ond gwelaf gyfraith arall yn fy aelodau, yn rhyfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. |
| 24 |
| Y truan o ddyn myfi! O na’m rhyddheid o’r corph marwol hwn! |
| 25 |
| Diolch yr wyf i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hyny, ynte, myfi fy hun â’m meddwl wyf yn gwasanaethu cyfraith Dduw; ond â’m cnawd, gyfraith pechod. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/romans/007.mp3
16
7