Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Ai heb wybod yr ydych, frodyr, canys wrth rai a ŵyr am ddeddf y llefaraf, mai cyhyd ag y bo byw dyn yr arglwyddiaetha’r ddeddf arno? |
| 2 |
| Rhwym trwy ddeddf i’w gŵr yw’r wraig briod, ac ef yn fyw; ond os bydd marw’r gŵr, y mae’n gwbl rydd oddi wrth ddeddf y gŵr. |
| 3 |
| Am hynny, ynteu, a’r gŵr yn fyw, fe gaiff yr enw godinebwraig os â yn eiddo gŵr arall. Eithr os bydd marw’r gŵr, rhydd ydyw oddi wrth y ddeddf, fel nad godinebwraig mohoni, ei dyfod yn eiddo gŵr arall. |
| 4 |
| Felly, fy mrodyr, gwnaed chwithau yn farw i’r ddeddf trwy gorff Crist, fel y delech yn eiddo arall, sef yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. |
| 5 |
| Canys pan oeddem yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy’r ddeddf, a ymegnïai yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; |
| 6 |
| ond yn awr yr ydym yn gwbl rydd oddi wrth y ddeddf, wedi marw ohonom i’r peth yr oeddem yn ei afael, fel yr ydym yn gaethion ym myd newydd ysbryd, ac nid yn hen fyd llythyren. |
| 7 |
| Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato! Er hynny, nid adwaenwn i bechod ond trwy ddeddf; ni wyddwn i am chwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf na thrachwanta. |
| 8 |
| Eithr pechod, wedi cael cyfle, a weithiodd ynof drwy’r gorchymyn bob chwant, |
| 9 |
| canys ar wahân i ddeddf y mae pechod yn farw. A myfi, byw oeddwn gynt ar wahân i ddeddf, |
| 10 |
| ond wedi dyfod y gorchymyn, daeth pechod yn fyw, eithr bûm i farw, a’r gorchymyn a oedd i fywyd, caed hwn i mi i farwolaeth; |
| 11 |
| canys pechod, wedi cael cyfle, trwy’r gorchymyn a’m twyllodd, a thrwyddo a’m lladdodd. |
| 12 |
| Felly y mae’r ddeddf yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da. |
| 13 |
| Gan hynny, a ddaeth yr hyn sy dda i mi yn farwolaeth? Na ato! Yn hytrach, pechod a fu felly, fel yr amlygid ef yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi drwy’r hyn sy dda, fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn bechadurus i’r eithaf. |
| 14 |
| Canys gwyddom fod y ddeddf yn ysbrydol, ond myfi, cnawdol ydwyf, wedi fy ngwerthu dan bechod. |
| 15 |
| Y peth a gyflawnaf, nid adwaen; canys nid a ewyllysiaf a wnaf, ond a gasâf, hynny a wnaf. |
| 16 |
| Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, cydsyniaf â’r ddeddf ei bod yn dda. |
| 17 |
| Felly yn awr, nid myfi mwyach sy’n ei gyflawni, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi. |
| 18 |
| Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw. |
| 19 |
| Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf. |
| 20 |
| Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi. |
| 21 |
| Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf; |
| 22 |
| canys cyd-ymhyfrydaf â deddf Duw yn ôl y dyn oddi mewn, |
| 23 |
| ond gwelaf ddeddf wahanol yn fy aelodau, yn milwrio yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo dan ddeddf pechod y sydd yn fy aelodau. |
| 24 |
| Druan ddyn fyfi! pwy a’m gwared oddi wrth y corff marw hwn? |
| 25 |
| Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/007.mp3
16
7