Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? |
| 2 |
| Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i'r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. |
| 3 |
| Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. |
| 4 |
| Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i'r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo'r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. |
| 5 |
| Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy'r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. |
| 6 |
| Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i'r peth y'n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren. |
| 7 |
| Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw'r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r ddeddf, Na thrachwanta. |
| 8 |
| Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. |
| 9 |
| Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw. |
| 10 |
| A'r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth. |
| 11 |
| Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a'm twyllodd i; a thrwy hwnnw a'm lladdodd. |
| 12 |
| Felly yn wir y mae'r ddeddf yn sanctaidd; a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. |
| 13 |
| Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy'r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy'r gorchymyn yn dra phechadurus. |
| 14 |
| Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. |
| 15 |
| Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. |
| 16 |
| Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â'r ddeddf mai da ydyw. |
| 17 |
| Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. |
| 18 |
| Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau'r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. |
| 19 |
| Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. |
| 20 |
| Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. |
| 21 |
| Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. |
| 22 |
| Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: |
| 23 |
| Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. |
| 24 |
| Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a'm gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? |
| 25 |
| Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â'r cnawd, cyfraith pechod. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/romans/007.mp3
16
7