Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Nid oes gan hynny yn awr ddim condemniad i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu. |
| 2 |
| Canys rhyddhaodd deddf ysbryd y bywyd dydi, yng Nghrist Iesu, oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. |
| 3 |
| Canys, a’r ddeddf yn ddiallu yn yr hyn yr oedd yn wan trwy’r cnawd, trwy ddanfon ei Fab ei hun yn nhebygrwydd cnawd pechadurus, ac oherwydd pechod, condemniodd Duw bechod yn y cnawd, |
| 4 |
| fel y cyflawnid ordeiniad y ddeddf ynom ni, sy’n rhodio nid yn ôl y cnawd, ond yn ôl yr Ysbryd. |
| 5 |
| Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, ar bethau’r cnawd y mae eu bryd, ond y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, ar bethau’r Ysbryd. |
| 6 |
| Canys rhoi bryd ar y cnawd sydd farwolaeth, ond rhoi bryd ar yr Ysbryd sydd fywyd a thangnefedd. |
| 7 |
| Oblegid rhoi bryd ar y cnawd sydd elyniaeth tuag at Dduw, canys nid ymostwng i ddeddf Duw, ac yn wir ni all. |
| 8 |
| Ac ni all y rhai sydd yn y cnawd ryngu bodd Duw. |
| 9 |
| Ond chwi, nid yn y cnawd yr ydych, ond yn yr ysbryd, os cartrefa Ysbryd Duw ynoch. Ac os oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. |
| 10 |
| Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw oherwydd pechod, ond yr ysbryd yn fywyd oherwydd cyfiawnder. |
| 11 |
| Ac os ysbryd yr hwn a gyfododd yr Iesu oddi wrth y meirw sy’n cartrefu ynoch, yr hwn a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw a fywha hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd a gartrefa ynoch. |
| 12 |
| Am hynny, ynteu, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. |
| 13 |
| Canys os ydych yn byw yn ôl y cnawd, marw fydd eich rhan, eithr os ydych trwy’r Ysbryd yn marwhau gweithredoedd y corff, byw fyddwch. |
| 14 |
| Canys cynifer ag a arweinir gan Ysbryd Duw, y mae’r rheini yn feibion Duw. |
| 15 |
| Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed i ofni eilwaith, eithr derbyniasoch ysbryd mabwysiad, y llefwn trwyddo Abba Dad. |
| 16 |
| Cyd-dystia’r Ysbryd ei hun â’n hysbryd ni ein bod yn blant Duw. |
| 17 |
| Ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion Duw, a chyd-etifeddion Crist, os yn wir y cyd-ddioddefwn gydag ef, fel y cydogonedder ni hefyd. |
| 18 |
| Oblegid yr wyf yn cyfrif mai dibwys yw dioddefiadau’r pryd hwn wrth y gogoniant sydd ar fedr ei ddatguddio i ni. |
| 19 |
| Oherwydd y mae hiraeth y greadigaeth yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. |
| 20 |
| Canys darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis, eithr o’i blegid ef a’i darostyngodd, |
| 21 |
| mewn gobaith y rhyddheir y greadigaeth hithau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw. |
| 22 |
| Canys gwyddom fod yr holl greadigaeth yn ocheneidio drwyddi ac mewn gwewyr hyd yr awron; |
| 23 |
| ac nid hynny’n unig, ond ninnau, a chennym flaenffrwyth yr Ysbryd, ie, ninnau hefyd a ocheneidiwn ynom ein hunain, gan ddisgwyl am fabwysiad, prynedigaeth ein corff. |
| 24 |
| Canys â’r gobaith hwn yr achubwyd ni; ond pan fo gobaith yn weledig, nid gobaith mohono; canys a wêl dyn, paham y gobeithia amdano? |
| 25 |
| Ond os am y peth na welwn y gobeithiwn, yr ydym yn disgwyl mewn amynedd amdano. |
| 26 |
| Yr un ffunud hefyd, rhydd yr Ysbryd gymorth i’n gwendid ni, canys pa beth i weddïo fel y dylid, ni wyddom, eithr erfyn yr Ysbryd ei hun drosom ag ocheneidiau anhraethadwy. |
| 27 |
| Gŵyr y Chwiliwr calonnau ar beth y mae bryd yr Ysbryd, gan mai yn ôl ewyllys Duw yr erfyn ar ran y saint. |
| 28 |
| A gwyddom ei fod ef yn cydweithio er daioni ym mhob peth â’r sawl a gâr Dduw, y rhai sydd alwedigion yn ôl arfaeth. |
| 29 |
| Oblegid y rhai a ragadnabu a ragbenododd ef hefyd i’w cydffurfio â delw ei Fab, fel y byddai ef yn gyntafanedig ymhlith brodyr lawer; |
| 30 |
| a’r rhai a ragbenododd, y rheini a alwodd ef hefyd; a’r rhai a alwodd, y rheini a gyfiawnhaodd ef hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, y rheini a ogoneddodd ef hefyd. |
| 31 |
| Pa beth, ynteu, a ddywedwn ar bwys y pethau hyn? Os yw Duw o’n tu, pwy sydd yn ein herbyn? |
| 32 |
| Y Duw nid arbedodd ei briod Fab ond a’i traddododd ef drosom ni oll, pa fodd gydag ef hefyd na rad ddyry ef bob peth i ni? |
| 33 |
| Pwy a ddwg gyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sy’n cyfiawnhau; |
| 34 |
| pwy sy’n condemnio? Crist Iesu yw’r hwn a fu farw, neu’n hytrach a gyfodwyd, y sydd ar ddeheulaw Duw, y sydd hefyd yn erfyn drosom. |
| 35 |
| Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? |
| 36 |
| Fel yr ysgrifennwyd: Er dy fwyn di lleddir ni trwy gydol y dydd. Cyfrifwyd ni fel defaid lladdfa. |
| 37 |
| Eithr yn y pethau hyn i gyd mwy na choncwerwyr ydym trwyddo ef a’n carodd ni. |
| 38 |
| Canys sicr ydwyf na bydd marwolaeth na bywyd, nac angylion na llywodraethau, na phethau sydd na phethau a ddaw, |
| 39 |
| na phŵerau nac uchder na dyfnder, nac unrhyw greadigaeth arall, yn abl i’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, y sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/romans/008.mp3
16
8