Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw.
Y diafol (‛duw‛ y byd hwn) sydd wedi dallu'r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy'n dangos i ni yn union sut un ydy Duw.
Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.
Dyma'r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae'n cael ei gario gynnon ni sy'n ddim byd ond llestri pridd — ffaith sy'n dangos mai o Dduw mae'r grym anhygoel yma'n dod, dim ohonon ni.
Am fod Duw wedi codi'r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dŷn ni'n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni, a chithau hefyd, yn cael bod gydag e!
Yn wir, dŷn ni'n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli.
Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw — ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur!
Felly mae'n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy'n anweledig, dim ar beth welwn ni'n digwydd o'n cwmpas ni. Dydy beth sydd i'w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy'n anweledig yn aros am byth!