Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Paul, Apostol — nid oddiwrth ddynion, na chwaith trwy ddyn, ond trwy Iesu Grist a Duw Dâd, yr Hwn a'i cyfododd Ef o feirw — |
| 2 |
| a'r holl frodyr sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: |
| 3 |
| Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a'n Harglwydd Iesu Grist, |
| 4 |
| yr Hwn a roddes ei Hun am ein pechodau, fel y'n gwaredai ni allan o'r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a'n Tâd, |
| 5 |
| i'r Hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. |
| 6 |
| Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol, |
| 7 |
| yr hon nid yw arall: ond fod rhai yn eich cythryblu chwi, ac yn chwennych dattroi efengyl Crist. |
| 8 |
| Eithr pe bai hyd y nod i nyni neu angel o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig. |
| 9 |
| Megys y dywedasom o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig. |
| 10 |
| Canys yn awr ai am ennill ffafr dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni dynion? Os hyd yn hyn y byddwn yn boddloni dynion, ni fyddwn was i Grist. |
| 11 |
| Canys yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol dyn. |
| 12 |
| Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist. |
| 13 |
| Canys chwi a glywsoch am fy ymarweddiad gynt mewn Iuddewaeth, i mi tros fesur erlid eglwys Dduw a'i hanrheithio hi; |
| 14 |
| a myned rhagof mewn Iuddewaeth tuhwnt i lawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod o'r dechreu yn fwy gorselog tros draddodiadau fy nhadau. |
| 15 |
| Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neillduodd o'm genedigaeth, ac a'm galwodd trwy ei ras, |
| 16 |
| i ddadguddio ei Fab ynof fi, fel y pregethwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed; |
| 17 |
| ac nid aethum ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Damascus. |
| 18 |
| Yna ar ol tair blynedd aethum i fyny i Jerusalem i ymweled a Cephas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod; |
| 19 |
| eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd. |
| 20 |
| A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd. |
| 21 |
| Wedi hynny daethum i ororau Syria a Cilicia; |
| 22 |
| ac yr oeddwn yn anadnabyddus yn bersonnol i eglwysi Judea, y rhai oeddynt yng Nghrist; |
| 23 |
| ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio; |
| 24 |
| a hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/galatians/001.mp3
6
1