Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Gwedi hyny, ar ol yspaid pedair blynedd ar ddeg yr aethum drachefn i fynu i Ierwshalem ynghyda Barnabas, |
| 2 |
| gan gymmeryd gyda mi Titus hefyd. Ac aethum i fynu yn ol datguddiad, a gosodais o’u blaen yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y cenhedloedd, ond o’r neilldu i’r rhai mewn cyfrif, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y rhedwn neu y rhedais. |
| 3 |
| Eithr ni fu i hyd yn oed Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ei gymhell i amdorri arno, |
| 4 |
| a hyny o achos y gau-frodyr a ddygpwyd i mewn yn ddirgel, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspïo ein rhyddid y sydd genym yng Nghrist Iesu fel y’n caethiwent ni: |
| 5 |
| i’r rhai ni fu i ni hyd yn oed am awr ymostwng mewn darostyngiad, fel y byddai i wirionedd yr Efengyl barhau gyda chwi. |
| 6 |
| Ond gan y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhyw beth (pa fath bynnag oeddynt, i mi ni wna ddim gwahaniaeth, gwyneb dyn Duw ni dderbyn,) canys i mi y rhai mewn cyfrif ni chwanegasant ddim; |
| 7 |
| eithr yn y gwrthwyneb, wrth weled o honynt yr ymddiriedwyd i mi am efengyl y di-amdorriad, fel i Petr am efengyl yr amdorriad, |
| 8 |
| (canys yr Hwn a weithiasai i Petr i apostoliaeth yr amdorriad, a weithiodd i mi hefyd |
| 9 |
| tuag at y cenhedloedd;) ac wedi gweled y gras a roddwyd i mi, Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid mai colofnau oeddynt, a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu-ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, |
| 10 |
| a hwythau at yr amdorriad, yn unig am y tlodion y cofiem, y peth ei hun yr oeddwn hefyd selog i’w wneud ef. |
| 11 |
| Ond pan ddaeth Cephas i Antiochia, i’w wyneb y gwrth-sefais ef, canys condemniedig ydoedd; |
| 12 |
| canys cyn dyfod o rai oddiwrth Iago, ynghyda’r cenhedloedd y bwyttaai; ond pan ddaethant, cilio ac ymddidoli yr oedd efe, gan ofni y rhai o’r amdorriad; |
| 13 |
| ac ynghydag ef y cyd-ragrithiodd y lleill hefyd o’r Iwddewon, fel y bu i Barnabas hefyd ei ddwyn ymaith â’u rhagrith hwy. |
| 14 |
| Eithr pan welais nad iawn-droedient yn ol gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Cephas ger bron pawb, Os tydi, a thi yn Iwddew, wyt yn byw fel y cenhedloedd ac nid yn Iwddewaidd, pa sut yr wyt yn cymhell y cenhedloedd i fyw yn Iwddewaidd? |
| 15 |
| Nyni wrth naturiaeth yn Iwddewon, ac nid o’r cenhedloedd yn bechaduriaid, |
| 16 |
| ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd y Gyfraith, eithr trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd, yng Nghrist Iesu y credasom fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd y Gyfraith; canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd. |
| 17 |
| Ond os pan yn ceisio ein cyfiawnhau yng Nghrist y’n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist, gan hyny yn weinidog pechod? |
| 18 |
| Na atto Duw. Canys os y pethau a dynnais i lawr, y rhai hyn yr wyf trachefn yn eu hadeiladu, troseddwr y profaf fy hun. |
| 19 |
| Canys myfi, trwy’r Gyfraith i’r Gyfraith y bu’m farw, fel i Dduw y byddwn fyw. |
| 20 |
| Ynghyda Christ y’m croes-hoeliwyd; eithr byw ydwyf; ond ddim mwyach myfi, ond byw ynof y mae Crist; a’r hyn yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, mewn ffydd yr wyf yn ei fyw, sef y ffydd ym Mab Duw, yr Hwn a’m carodd ac a’i dodes Ei hun drosof. |
| 21 |
| Nid wyf yn dirymmu gras Duw, canys os trwy’r Gyfraith y mae cyfiawnder, yna yn ofer y bu Crist farw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/galatians/002.mp3
6
2