Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Yna, ar ben pedair blynedd ar ddeg, euthum eilwaith i fyny i Gaersalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd i’m canlyn. |
| 2 |
| Ac euthum i fyny yn ôl datguddiad, a gosodais o’u blaenau yr efengyl yr wyf yn ei chyhoeddi ym mhlith y cenhedloedd, gan ei gosod o flaen “yr awdurdodau” o’r neilltu, rhag digwydd mai yn ofer y rhedwn neu y rhedaswn. |
| 3 |
| Eithr hyd yn oed Titus, ac yntau gyda mi, ac yn Roegwr, ni orfuwyd enwaedu arno. |
| 4 |
| Eithr oblegid y gau frodyr a ddygesid i mewn yn llechwraidd, dynion a lithrodd i mewn i ysbïo ein rhyddid ni, sydd eiddom yng Nghrist Iesu, er mwyn ein dwyn i gaethiwed — |
| 5 |
| iddynt hwy nid ymroisom, naddo dros awr, â chyfryw ymddarostyngiad, fel yr arhosai gwirionedd yr Efengyl o’ch rhan chwi. |
| 6 |
| A chan y rhai y tybir eu bod yn “awdurdodau”, — pa fath oeddynt unwaith, nid yw ddim i mi (nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn) — i mi, meddaf, ni chwanegodd yr “awdurdodau” un peth: |
| 7 |
| na, i’r gwrthwyneb, â hwy yn gweled ddarfod ymddiried yr efengyl at y dienwaededig i mi, megis yr efengyl at yr enwaededig i Bedr, |
| 8 |
| (canys y neb a weithredodd o du Pedr fel y byddai Apostol at yr enwaededig, a weithredodd o’m tu innau at y cenhedloedd), |
| 9 |
| ac â hwy yn canfod y gras a roddwyd i mi, rhoddes Iago a Cheffas ac Ioan, y rhai y tybir eu bod yn golofnau, ddeheulaw cymdeithas i mi a Barnabas, fel y byddem, nyni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaededig: |
| 10 |
| yn unig, bod i ni gofio’r tlodion, yr union beth yr oeddwn innau yn eiddgar i’w wneuthur. |
| 11 |
| A phan ddaeth Ceffas i Antiochia, sefais i’w erbyn yn ei wyneb, oblegid ar gam yr oedd: |
| 12 |
| canys cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, cyd-fwytâi â’r cenhedloedd; ond wedi eu dyfod hwynt, dechreuodd dynnu’n ôl ac ymgadw draw, rhag ofn teulu’r enwaediad. |
| 13 |
| A chyd-ragrithiodd yr Iddewon eraill ag ef, fel yr ysgubwyd Barnabas yntau i ganlyn eu rhagrith hwy. |
| 14 |
| Eithr pan welais nad oeddynt yn iawn-droedio yn ôl gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Geffas yng ngŵydd pawb: Os wyt ti, â thithau’n Iddew, yn byw ar ddull cenhedlig, ac nid ar ddull Iddewig, paham y gorfyddi’r cenhedloedd i ymarwedd megis Iddewon? |
| 15 |
| Nyni, sydd Iddewon wrth natur, ac nid pechaduriaid o blith cenhedloedd, |
| 16 |
| â ni’n gwybod na chyfiawnheir dyn trwy weithredoedd deddf, namyn trwy ffydd yng Nghrist Iesu, credasom ninnau hefyd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd deddf; canys trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd |
| 17 |
| Ond, â ni’n ceisio bod ein cyfiawnhau yng Nghrist, os cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, yna, ai gweinidog pechod yw Crist? Na ato. |
| 18 |
| Canys os y pethau a ddymchwelais yr wyf eilwaith yn eu hadeiladu, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. |
| 19 |
| Canys myfi, trwy ddeddf, bum farw i ddeddf, fel y byddwn byw i Dduw; |
| 20 |
| yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; ac nid myfi mwy sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a’m bywyd yr awron yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf mewn ffydd ym Mab Duw, a’m carodd i, ac a’i traddodes ei hun drosof fi. |
| 21 |
| Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna bu Crist farw am ddim. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/galatians/002.mp3
6
2