Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| O, Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygatynnodd chwi, a Iesu Grist wedi ei arddangos o flaen eich llygaid chwi yn groeshoeliedig? |
| 2 |
| Hyn yn unig y mynnwn ei wybod gennych, — ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ai trwy wrando mewn ffydd? |
| 3 |
| A ydych ynfyted? Wedi dechreu ohonoch gyda’r Ysbryd, a orffennwch chwi yn awr gyda’r cnawd? |
| 4 |
| A brofasoch chwi gymaint yn ofer — os ofer hefyd? |
| 5 |
| Dowch! yr un sy’n rhoddi i chwi’r ysbryd ac yn gweithio yn eich plith chwi wyrthiau — ai trwy weithredoedd deddf ai trwy wrando mewn ffydd y mae hynny? |
| 6 |
| Diau, megis y credodd Abraham i Dduw ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 7 |
| Gwelwch gan hynny mai teulu ffydd, y rhai hyn yw meibion Abraham. |
| 8 |
| A’r ysgrythur, gan ragweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau’r cenhedloedd, rhagefengylodd wrth Abraham: Bendithir ynot ti yr holl genhedloedd. |
| 9 |
| Felly bendithir teulu ffydd gydag Abraham ffyddiog. |
| 10 |
| Canys cynifer oll ag y sydd o deulu gweithredoedd deddf, o dan fellith y maent; canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un nad erys wrth bob peth a sgrifennwyd yn llyfr y ddeddf i’w gwnethur hwynt |
| 11 |
| Ac eglur yw na chyfiawnheir neb wrth ddeddf ger bron Duw, canys y cyfiawn trwy ffydd y bydd byw, |
| 12 |
| ond y ddeddf, nid o ffydd y mae, eithr y neb a wna’r pethau hyn, bydd byw drwyddynt. |
| 13 |
| Crist a’n prynodd ni oddiwrth felltith y ddeddf trwy ddyfod yn felltith drosom, canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un a fo crog ar drostan, |
| 14 |
| fel y delai bendith Abraham i’r cenhedloedd yn Iesu Grist, a derbyn ohonom ninnau drwy ffydd addewid yr Ysbryd. |
| 15 |
| Frodyr, — dywedyd yr wyf ar wedd dynion — hyd yn oed cyfamod dyn, wedi y cadarnhäer, ni bydd neb yn ei ddirymu, nac yn ychwanegu ato. |
| 16 |
| I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef: ni ddywedir “ac i’w hadau”, megis am liaws, eithr megis am un, ac i’th had di, sef yw hwnnw, Crist. |
| 17 |
| Dyma fy meddwl — am gyfamod a gadarnhawyd ymlaen llaw gan Dduw, nid yw’r ddeddf a ddaeth bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi hynny, yn ei ddiddymu hyd at ddirymu’r addewid. |
| 18 |
| Canys os wrth ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach wrth addewid: ond i Abraham, trwy addewid y mae Duw wedi ei rhad-roddi. |
| 19 |
| Beth gan hynny am y ddeddf? I beri troseddau yr atodwyd hi, hyd oni ddelai’r had y gwnaethpwyd yr addewid iddo, a’i gorchymyn drwy angylion yn llaw canolwr. |
| 20 |
| Ac nid tros un y mae canolwr, eithr Duw, un ydyw. |
| 21 |
| A ydyw’r ddeddf gan hynny yn groes i addewidion Duw? Na ato. Canys pe rhoisid deddf ag iddi allu i beri bywyd, drwy’r ddeddf yn wir y buasai cyfiawnder. |
| 22 |
| Eithr cyd-gaeodd yr ysgrythur bob peth oddi tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r sawl sy’n credu. |
| 23 |
| Ond cyn dyfod y ffydd hon, yr oedd gwarchod arnom tan y ddeddf, a’n cyfyngu i’r ffydd yr oeddis ar fedr ei datguddio. |
| 24 |
| Felly daeth y ddeddf yn was plant i’n dwyn at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. |
| 25 |
| Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan was plant. |
| 26 |
| Canys meibion i Dduw drwy ffydd ydych oll, yng Nghrist Iesu: |
| 27 |
| oblegid cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yn un â Christ, gwisgasoch Grist. |
| 28 |
| Ni all bod nac Iddew na Groegwr, ni all bod na chaeth na rhydd, ni all bod na gwryw na benyw: canys chwi oll, un ydych yng Nghrist Iesu. |
| 29 |
| Ac os eiddo Crist ydych chwi, yna had Abraham ydych, etifeddion wrth addewid. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/galatians/003.mp3
6
3