Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| O y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? |
| 2 |
| Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? |
| 3 |
| A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? |
| 4 |
| A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. |
| 5 |
| Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? |
| 6 |
| Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 7 |
| Gwybyddwch felly mai'r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. |
| 8 |
| A'r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. |
| 9 |
| Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. |
| 10 |
| Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt. |
| 11 |
| Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. |
| 12 |
| A'r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna'r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. |
| 13 |
| Crist a'n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: |
| 14 |
| Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd. |
| 15 |
| Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. |
| 16 |
| I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i'w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i'w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th had di, yr hwn yw Crist. |
| 17 |
| A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw'r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer. |
| 18 |
| Canys os o'r ddeddf y mae'r etifeddiaeth, nid yw haeach o'r addewid: ond Duw a'i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. |
| 19 |
| Beth gan hynny yw'r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai'r had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. |
| 20 |
| A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. |
| 21 |
| A ydyw'r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o'r ddeddf y buasai cyfiawnder. |
| 22 |
| Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu. |
| 23 |
| Eithr cyn dyfod ffydd, y'n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i'r ffydd, yr hon oedd i'w datguddio. |
| 24 |
| Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd. |
| 25 |
| Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. |
| 26 |
| Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. |
| 27 |
| Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. |
| 28 |
| Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. |
| 29 |
| Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/galatians/003.mp3
6
3