Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| O Galatiaid anneallus, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi, i'r rhai, o flaen eich llygaid, y portreiadwyd Iesu Grist yn groeshoeliedig? |
| 2 |
| Hyn yn unig a cwyllysiaf ei ddysgu gennych: Ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Yspryd, neu trwy wrandawiad ffydd? |
| 3 |
| A ydych chwi mor anneallus? wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y'ch perffeithir? |
| 4 |
| A ddyoddefasoch gymmaint o bethau yn ofer? os hefyd yn ofer. |
| 5 |
| Yr hwn gan hynny sydd yn eich cyflenwi chwi â'r Yspryd, ac yn effeithio galluoedd gwyrthiol ynoch, ai o weithredoedd deddf neu o wrandawiad ffydd y mae? |
| 6 |
| Megys y credodd Abraham Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. |
| 7 |
| Yr ydych yn canfod gan hynny mai y rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw meibion Abraham. |
| 8 |
| A'r Ysgrythyr, yn rhagweled mai trwy ffydd y cyfiawnhâi Duw y cenhedloedd, a rag‐efengylodd i Abraham, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. |
| 9 |
| Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn. |
| 10 |
| Canys cynnifer ag y sydd o weithredoedd deddf, dan felldith y maent, canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn Llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt; |
| 11 |
| ac na chyfiawnheir neb trwy ddeddf ger bron Duw, eglur yw; canys, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd; |
| 12 |
| a'r Ddeddf nid yw o ffydd, eithr, Yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn a fydd byw ynddynt. |
| 13 |
| Crist a'n llwyr‐brynodd ni o felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren; |
| 14 |
| fel y delai i'r Cenhedloedd fendith Abraham yn Iesu Grist, fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd. |
| 15 |
| Frodyr, yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd: Er na byddo ond cyfammod dyn, wedi ei gadarnhau, nid yw neb yn ei ddirymmu neu yn ychwanegu atto. |
| 16 |
| Yn awr i Abraham y llefarwyd yr addewidion, ac i'w hâd. Ni ddywed, Ac i hâdau, fel am lawer, eithr fel am un, Ac i'th hâd, yr hwn yw Crist. |
| 17 |
| A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Cyfammod a rag‐gadarnhawyd gan Dduw, nid yw y Ddeddf, yr hon a ddaeth bedwar cant a deg‐ar‐hugain o flynyddoedd wedi hyn, yn ei ddirymmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ddieffaith. |
| 18 |
| Canys os o ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond Duw a'i rhad‐roddodd i Abraham trwy addewid. |
| 19 |
| Pa beth gan hynny yw y Ddeddf? Ychwanegwyd hi oblegyd troseddau, hyd oni ddeuai yr hâd i'r hwn y mae yr addewid wedi ei gwneuthur, wedi ei hordeinio trwy angelion trwy law cyfryngwr. |
| 20 |
| Yn awr nid yw y cyfryngwr yn gyfryngwr i un; ond Duw sydd un. |
| 21 |
| A yw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw. Canys pe rhoddasid deddf yn gallu bywhâu, yn wir o ddeddf y buasai cyfiawnder. |
| 22 |
| Eithr cyd‐gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid a ddaw o ffydd Crist Iesu i'r rhai sydd yn credu. |
| 23 |
| Eithr cyn dyfod ffydd, nyni a gadwyd mewn gwarchodaeth dan ddeddf, wedi ein cyd‐gau i fyny i'r ffydd oedd ar gael ei dadguddio. |
| 24 |
| Fel ag y mae y Ddeddf wedi bod ein hathraw i'n harwain at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd. |
| 25 |
| Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athraw. |
| 26 |
| Canys chwi oll ydych feibion Duw, trwy ffydd sydd yng Nghrist Iesu; |
| 27 |
| canys cynnifer o honoch a fedyddiwyd i Grist a wisgasoch Grist. |
| 28 |
| Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwrryw a benyw; canys chwi oll ydych un yng Nghrist Iesu. |
| 29 |
| Ac os eiddo Crist ydych, yna hâd Abraham ydych, etifeddion yn ol addewid. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/galatians/003.mp3
6
3