A'R 1567
|
| 1 |
| A Galatieit ynfidion, pwy a’ch llygatdynawdd chwi, val na ’lynech wrth y gwiri onedd, i ba ’r ei y racyscythrwyt, Iesu Christ o vlaen eich llygait, ac yn eich plith y crogwyt? |
| 2 |
| Hyn yn vnic a chwenychwn ei ddyscu genwch, Ai wrth weithre dd y Ddeddyf yd erbyniesoch yr Yspryt, ai wrth glywet precethu’r ffydd? |
| 3 |
| A ytych mor ynfydion, a’ gwedy ywch ddechreu yn yr Yspryt, y mynech yr awrhon eich perffeithio gan y cnawt? |
| 4 |
| A ddyoddefesoch vvi gymeint o betheu yn over? ac a’s yn over yvv. |
| 5 |
| Yr hwn gan hyny ’sydd yn trefnu ywch yr Yspryt, ac ’sy’n gwneuthur gwyrthieu yn eich plith, a wna ef hyny wrth weithrede dd y Ddeddyf, ai wrth glywet y ffydd gvvedy hei phrecethu? |
| 6 |
| Nid amgen megis y credawdd Abraham y Dduw, ac ei cyfrifwyt y‐ddaw yn gyfiawnder. |
| 7 |
| Gwybyddwch gan hyny, mae yr ei y ’sydd or ffydd, yr ei hyn yw plant Abraham. |
| 8 |
| Can ys yr Scrythur yn rac welet, y cyfiawnei Duw y Cenetloedd trwy ffydd, a rac euangelawdd i Abraham, gan ddywedyt, Yno‐ti y bendithir yr oll Genetloedd. |
| 9 |
| Ac velly yr ei ’sydd o’r ffydd, a vendithir y gyd a’r ffyddlawn Abraham. |
| 10 |
| Can ys cynniuer ac ynt o weithre dd y Ddeddyf, y dan velltith y maent: can yscrivenedic yw, Ys malldigedic pop vn nyd erys yn yr oll petheu, a yscrivennir yn llyfer y Ddeddyf, y’w gwneuthur vvynt. |
| 11 |
| Ac na chyfiawnir neb un wrth y Ddeðyf yn‐golwc Duw, amlwc yw: can ys y cyfiawn vydd‐byw wrth ffydd. |
| 12 |
| A’r Ddeddyf nyd yw o ffydd: eithyr y dyn a wnel y petheu hyny, a vydd byw yntynt vvy. |
| 13 |
| Christ a’n prynawdd ni ywrth velldith y Ddeddyf, pan wnaethpwyt ef yn velldith trosam, (can ys y mae ’n scrivenedic, Ys malldicedic pop vn ’sy ynghroc a’r bren) |
| 14 |
| val y delei vendith Abraham ar y Cenetloedd trwy Christ Iesu, val yd erbyniem addewit yr Yspryt trwy ’r ffydd. |
| 15 |
| Broder, dywedyt ydd wyf val y gvvna dyniō, Cyd na bo an d am b ot dyn gwedy y cadarnheir, eto ny ddirymia neb ef, ac ny ðyd dim wrtho. Yr Epistol y xiij. Sul gwedy Trintot. |
| 16 |
| Weithion i Abraham ac y’w had y gwnaethpwyt y gaddeweidion. Ny ddywet ef, Ac i’r hadae, megis yn dyvvedyt am lawer: eithyr, Ac ith had ti, megis am vn, yr hwn yw Christ. |
| 17 |
| A’ hyn a ddywedaf, am y Ddeddyf yr hon oedd petwarcent a dec blynedd ar vcain gwedy, na ddichon hi ðiðymio yr Am b ot yr hon a racgadarnheit gan Dduw erwydd Christ, val y dirymia hi yr aðewit. |
| 18 |
| O bleit a’s o’r Ddeðyf y mae ’r etiveddieth, nyd yvv ynteu mwy wrth y gaddewit, eithr Duw a roðes yr etiueddieth i Abraham wrth ’addewit. |
| 19 |
| I ba beth gan hyny y gvvasanaetha ’r Ddeddyf? O bleit trosoddeu y doded y hi, y’n y ðelei yr had hvvnvv y gwnaed yr addewit yddaw: ac y hi a ordeiniwyt gan Angelion yn llaw Cyfryngwr. |
| 20 |
| A’ Chyfrynggwr nyd yw i vn: eithyr Duw ’sydd vn. |
| 21 |
| A yvv ’r Ddeddyf gan hyny yn erbyn yr a ddeweid ion Duw? Ymbell oeð: Can ys pe rhoesit Deðyf a allesei beri bywhau, yn wir e vesei cyfiawnder o’r Ddeðyf. |
| 22 |
| Eithyr yr Scrythur ’lan a argaeawdd yr oll petheu y dan pechot, y’ny roðdit y gaddewit wrth ffydd Iesu Christ ir sawl a credant. |
| 23 |
| Eithr cyn na dyvot y ffydd, in cedwit y dan y Ddeddyf, ac in goarchëit ir ffydd, a dd atguddit rhac llaw. |
| 24 |
| Ac velly y Ddeddyf oedd ein h athro in dvvyn at Christ, val in cyfiawnheit ni wrth ffydd. |
| 25 |
| Eithr wedy dyuot y ffydd, ny d ym ni mwy ach y dan athro. |
| 26 |
| Cā ys chwi oll’sy yn plant i Dduw gan y ffydd yn‐Christ Iesu. |
| 27 |
| Can ys chvvychvvi oll a’r a vatyddiwyt i Christ, a wiscesoch Christ. |
| 28 |
| Nyd oes nac Iuddew na Groecwr: nid oes na chaeth na rryð: nyd oes na gwrryw na benyw: can ys yr vn y d yw‐chwi oll yn‐Christ Iesu. |
| 29 |
| Ac a’s i Christ yddyvvch, yno yð ywch yn had Abraham, ac yn etiueðion wrth aðewit. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/galatians/003.mp3
6
3