Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Dyma fy meddwl — hyd tra bo’r etifedd yn blentyn, ni bydd dim rhagor rhyngddo â gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl. |
| 2 |
| Ond o dan ofalwyr y bydd, a goruchwylwyr, hyd yr amser a bennodd y tad. |
| 3 |
| Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, mewn caethiwed yr oeddym oddi tan ysbrydion elfennau ’r byd. |
| 4 |
| Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, danfonodd Duw ei fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur oddi tan y ddeddf, |
| 5 |
| fel y prynai’r rhai oedd oddi tan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. |
| 6 |
| Ac oblegid mai meibion ydych, danfonodd Duw i’n calonnau ni Ysbryd ei Fab, yn llefain Abba Dad. |
| 7 |
| Felly nid wyt mwy was, ond mab, ac os mab, etifedd hefyd trwy Dduw. |
| 8 |
| Eithr y pryd hwnnw, â chwi heb adnabod Duw, caethweision oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau. |
| 9 |
| Ond yn awr, wedi dyfod ohonoch i adnabod Duw, neu’n hytrach wedi dyfod i’ch adnabod gan Dduw, pa fodd yr ymchwelwch eilwaith at ysbrydion llesg a thlawd yr elfennau; a mynnu eilwaith o newydd eu gwasanaethu? |
| 10 |
| Cadw dyddiau yr ydych, a misoedd, ac amserau, a blynyddoedd. |
| 11 |
| Ofni’r wyf amdanoch, rhag digwydd darfod i mi ymboeni wrthych yn ofer. |
| 12 |
| Byddwch fel myfi, canys deuthum innau i fod fel chwychwi, frodyr, yr wyf yn deisyf arnoch. Ni wnaethoch â mi ddim cam, |
| 13 |
| ond gwyddoch mai oherwydd gwendid fy nghnawd yr efengylais y waith gyntaf i chwi, |
| 14 |
| a’r hyn oedd demtasiwn i chwi yn fy nghnawd i, nis dirmygasoch, ac nis ffieiddiasoch, eithr fy nerbyn i megis angel Duw, megis Crist Iesu. |
| 15 |
| Pa le y mae’ch ymannerch, ynteu? Canys tystio yr wyf i chwi, â bod modd, y tynasech allan eich llygaid a’u rhoddi i mi. |
| 16 |
| Felly a euthum i yn elyn i chwi, a mi’n dywedyd y gwir wrthych? |
| 17 |
| Eich anwesu y maent hwy, nid ag amcan da, eithr ewyllysiant eich cau chwi allan, fel yr anwesoch hwythau. |
| 18 |
| Ond da yw’ch anwesu mewn peth da bob amser, ac nid yn unig a minnau yno yn eich gŵydd chwi, |
| 19 |
| fy mhlant bychain, y rhai yr wyf ym mhoenau esgor drostynt eilwaith, hyd oni ffurfier Crist ynoch chwi. |
| 20 |
| Ond mynnwn fy mod yna yn eich plith yr awron, a newid fy nhôn, canys yr wyf mewn penbleth o’ch plegid. |
| 21 |
| Dywedwch i mi, chwi sy’n ewyllysio bod tan ddeddf, onid ydych yn clywed y ddeddf? |
| 22 |
| Canys ysgrifenedig yw — cafodd Abraham ddau fab, un o’r gaethferch ac un o’r wraig rydd: |
| 23 |
| eithr hwnnw a oedd o’r gaethferch, yn ôl y cnawd y cenhedlwyd: ond hwnnw o’r wraig rydd, trwy addewid. |
| 24 |
| Alegorïaidd yw’r pethau hyn, canys y ddwy hyn, dau gyfamod ydynt, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, sef yw, |
| 25 |
| Hagar (a Hagar, mynydd Sinai yn Arabia yw), a chyfateb y mae i’r Gaersalem sydd yn awr; canys mewn caethiwed y mae hi ynghyd â’i phlant; |
| 26 |
| ond y Gaersalem fry, rhydd ydyw, honno yw ein mam ni; |
| 27 |
| canys ysgrifenedig yw: Llawenha, dydi ddiepil, nad wyt yn planta; torr i ganu a bloeddia, dydi nad wyt yn esgor; canys llawer fydd plant yr un amhriod ragor honno y mae gŵr iddi. |
| 28 |
| A chwithau, frodyr, plant addewid ydych, un wedd ag Isaac. |
| 29 |
| Eithr megis gynt yr erlidiai hwnnw, a genhedlwyd yn ôl y cnawd, yr un a genhedlwyd yn ôl yr Ysbryd, felly eto hefyd. |
| 30 |
| Ond pa beth a ddywed yr ysgrythur? Bwrw allan y gaethferch a’i mab: canys ni bydd mab y gaethferch yn etifedd, ddim gyda mab y wraig rydd. |
| 31 |
| Felly, frodyr, nid plant i’r gaethferch ydym, ond i’r wraig rydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/galatians/004.mp3
6
4