Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo ei dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed — er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr! |
| 2 |
| Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun. |
| 3 |
| Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd. |
| 4 |
| Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, |
| 5 |
| i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw. |
| 6 |
| A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “ Abba! Dad!” |
| 7 |
| Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi. |
| 8 |
| O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau. |
| 9 |
| Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto? |
| 10 |
| Ydych chi'n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau'r gwyliau crefyddol blynyddol sy'n plesio Duw? |
| 11 |
| Mae'n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f'amser gyda chi! |
| 12 |
| Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen. |
| 13 |
| Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf. |
| 14 |
| A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi — fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun! |
| 15 |
| Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib. |
| 16 |
| Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir? |
| 17 |
| Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw. |
| 18 |
| “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” — felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas. |
| 19 |
| Fy mhlant annwyl i — dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi. |
| 20 |
| O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! — dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud! |
| 21 |
| Dwedwch wrtho i — chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud? |
| 22 |
| Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig. |
| 23 |
| Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud. |
| 24 |
| Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai — ac mae ei phlant hi wedi eu geni yn gaethion. |
| 25 |
| Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw — mae hi a'i phlant yn gaethion. |
| 26 |
| Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy'n mam ni! |
| 27 |
| Amdani hi mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy'n methu cael plant! Bloeddia ganu'n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r un sydd â gŵr.” |
| 28 |
| Frodyr a chwiorydd, chi ydy plant yr addewid! — yn union fel Isaac! |
| 29 |
| Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae'r plant sydd wedi eu geni o'r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy'n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. |
| 30 |
| Ond beth ydy ateb yr ysgrifau sanctaidd i'r broblem? “Rhaid i ti gael gwared â'r gaethferch a'i mab. Fydd mab y gaethferch ddim yn cael rhan o etifeddiaeth mab dy wraig, sy'n rhydd.” |
| 31 |
| Dim plant y gaethferch ydyn ni, ffrindiau! Plant y wraig rydd ydyn ni! |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/galatians/004.mp3
6
4