Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Ond yr wyf yn dywedyd, am gymmaint o amser ag y mae yr etifedd yn blentyn, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; |
| 2 |
| eithr y mae efe dan warcheidwaid a goruchwylwyr hyd amser pennodedig y tâd. |
| 3 |
| Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, a gedwid dan wyddorion y byd. |
| 4 |
| Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, Duw a ddanfonodd allan ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan ddeddf, |
| 5 |
| fel y prynnai y rhai oeddent dan ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. |
| 6 |
| Ac o herwydd eich bod yn feibion, Duw a anfonodd allan Yspryd ei Fab i'n calonnau ni, yn llefain, Abba, Dâd. |
| 7 |
| Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yna etifedd trwy Dduw. |
| 8 |
| Eithr yn wir y pryd hwnnw, ac heb adnabod Duw, yr oeddech mewn caeth‐wasanaeth i'r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau: |
| 9 |
| ond yn awr, a chwi wedi dyfod i adnabod Duw, neu, yn hytrach, yn cael eich adnabod gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol drachefn at y wyddorion gwan a thlodion, i'r rhai yr ydych yn dymuno drachefn o'r newydd bod mewn caeth‐wasanaeth? |
| 10 |
| Yr ydych yn cadw yn fanwl ddyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd. |
| 11 |
| Mae arnaf ofn am danoch, rhag mewn un modd, fy mod wedi llafurio yn ofer mewn perthynas i chwi. |
| 12 |
| Dymunaf arnoch, frodyr, byddwch fel myfi; canys yr wyf fi fel chwi. Mewn dim ni wnaethoch gam â mi; |
| 13 |
| eithr gwyddoch mai o herwydd gwendid y cnawd y pregethais yr efengyl i chwi y tro cyntaf; |
| 14 |
| a'ch profedigaeth chwi yn fy nghnawd ni ddiystyrasoch, ac ni wrthodasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys Crist Iesu. |
| 15 |
| Pa le gan hynny y mae eich dedwyddiad o honoch eich hunain? canys tystio yr wyf i chwi, pe yn bosibl, y tynnasech allan eich llygaid ac a'u rhoisech i mi. |
| 16 |
| Felly a wyf wedi myned yn elyn i chwi, wrth ddywedyd y gwir i chwi? |
| 17 |
| Y maent yn eich ceisio yn selog, ond nid yn onest; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y byddo i chwi eu ceisio hwy yn selog. |
| 18 |
| Eithr da yw cael ein ceisio yn selog mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi, |
| 19 |
| fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn esgor arnoch drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch. |
| 20 |
| Ewyllysiwn fod yn bresennol yn awr gyda chwi a newid fy llais, canys yr wyf mewn dyryswch yn eich cylch. |
| 21 |
| Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan ddeddf, ai ni wrandewch ar y ddeddf? |
| 22 |
| Canys y mae yn ysgrifenedig fod gan Abraham ddau fab, un o'r wasanaeth‐ferch, ac un o'r wraig rydd. |
| 23 |
| Eithr yr hwn o'r wasanaeth‐ferch a aned yn ol y cnawd, a'r hwn o'r wraig rydd trwy addewid. |
| 24 |
| Yr hyn bethau ydynt ffugyrol; canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod: un o fynydd Sinai, yn dwyn plant i gaethiwed, yr hon yw Hagar. |
| 25 |
| A'r Hagar hon yw mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i'r Jerusalem sydd yn awr, canys y mae mewn caethiwed gyda'i phlant. |
| 26 |
| Ond y Jerusalem uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni. |
| 27 |
| Canys ysgrifenedig yw:— Llawenycha, y diffrwyth, yr hon nid wyt yn dwyn plant; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae ganddi wr. |
| 28 |
| A chwychwi, frodyr, megys Isaac, ydych blant addewid. |
| 29 |
| Eithr megys y pryd hwnnw, yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a aned yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr. |
| 30 |
| Eithr pa beth a ddywed yr Ysgrythyr? Bwrw allan y wasanaeth‐ferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth‐ferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. |
| 31 |
| Felly, frodyr, nid plant y wasanaeth‐ferch ydym, ond y wraig rydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/galatians/004.mp3
6
4