Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| I ryddid y rhyddhâodd Crist ni: sefwch gan hynny yn gadarn, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. |
| 2 |
| Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os mynnwch enwaediad, ni leshâ Crist ddim i chwi. |
| 3 |
| Ac yr wyf yn tystio drachefn i bob dyn ar a enwaedir, ei fod yn ddyledwr i wneuthur yr holl Ddeddf. |
| 4 |
| Chwi a wnaed yn ddirym oddiwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhâu trwy ddeddf; chwi a syrthiasoch oddiwrth ras. |
| 5 |
| Canys nyni trwy yr Yspryd o ffydd a ddysgwyliwn yn daer obaith cyfiawnder. |
| 6 |
| Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad. |
| 7 |
| Yr oeddech yn rhedeg yn dda: pwy a'ch rhwystrodd, fel nad ufuddhâech i'r gwirionedd? |
| 8 |
| Ni ddaeth y darbwylliad hwn oddiwrth yr Hwn sydd yn eich galw chwi. |
| 9 |
| Y mae ychydig lefain yn lefeinio yr holl does. |
| 10 |
| Y mae gennyf hyder ynoch chwi yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond yr hwn sydd yn eich cythryblu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. |
| 11 |
| Ond myfi, frodyr, os enwaediad etto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir etto? yna y mae tramgwydd y Groes wedi ei ddiddymmu. |
| 12 |
| Mi a fynnwn, ië, pe byddai i'r rhai sydd yn eich ansefydlu hyd y nod dorri eu hunain ymaith. |
| 13 |
| Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr; yn unig na ddefnyddiwch eich rhyddid yn achlysur i'r cnawd; ond trwy gariad byddwch weision i'ch gilydd. |
| 14 |
| Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn un gair, yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. |
| 15 |
| Eithr os cnipgnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddyfethir chwi gan eich gilydd. |
| 16 |
| Ond meddaf, Rhodiwch wrth yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. |
| 17 |
| Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd; canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i'w gilydd, fel na wneloch y pethau a ewyllysioch. |
| 18 |
| Ond os gan yr Yspryd y'ch arweinir, nid ydych dan ddeddf. |
| 19 |
| Ond amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydynt,, godineb, aflendid, anlladrwydd, |
| 20 |
| delw‐addoliaeth, dewiniaeth, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, brad‐gynllwynion, ymraniadau, pleidiau, cenfigennau, |
| 21 |
| [llofruddiaethau ], meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf yn rhag‐ddywedyd i chwi, megys y rhag‐ddywedais, y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau ni chänt etifeddu Teyrnas Dduw. |
| 22 |
| Eithr ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir‐ymaros, hynawsedd, daioni, ffyddlonder, |
| 23 |
| addfwynder, hunan‐reolaeth: yn erbyn y cyfryw nid oes deddf. |
| 24 |
| A'r rhai sydd o Grist Iesu a groeshoeliasant y cnawd, ynghyd a'i wyniau a'i chwantau. |
| 25 |
| Os byw ydym wrth yr Yspryd, wrth yr Yspryd hefyd rhodiwn. |
| 26 |
| Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan gythruddo ein gilydd, gan genfigennu wrth ein gilydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/galatians/005.mp3
6
5