Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd [yn Ephesus ] a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: |
| 2 |
| Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. |
| 3 |
| Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist; |
| 4 |
| fel yr etholodd ni ynddo Ef, cyn seiliad y byd, ar fod o honom yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef: |
| 5 |
| wedi iddo, mewn cariad, ein rhagordeinio i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys, |
| 6 |
| er mawl gogoniant ei ras, yr hwn a rad‐roddodd efe i ni, yn yr Anwylyd, |
| 7 |
| yn yr hwn y mae gennym brynedigaeth trwy ei waed, maddeuant o'n troseddau, yn ol cyfoeth ei ras, |
| 8 |
| yr hwn a wnaeth Efe ymhelaethu tuag attom ni, wedi iddo, ym mhob doethineb a deall, |
| 9 |
| hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei foddlonrwydd, yr hwn a arfaethodd Efe ynddo ei hun, |
| 10 |
| mewn perthynas i gyfundrefn cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd drachefn bob peth yng Nghrist, y rhai yn y nefoedd, a'r rhai ar y ddaear, |
| 11 |
| ynddo Ef, yn yr hwn hefyd y'n gwnaed yn etifeddiaeth, wedi ein rhag‐ordeinio yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor ei ewyllys, |
| 12 |
| fel y byddem er mawl ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o'r blaen yng Nghrist; |
| 13 |
| yn yr hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, — yn yr hwn, wedi credu o honoch hefyd, y'ch seliwyd âg Yspryd Glân yr Addewid, |
| 14 |
| yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth hyd brynedigaeth ei berchenogaeth, i fawl ei ogoniant. |
| 15 |
| O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu yr hon sydd yn eich plith, [a'ch cariad] tuag at yr holl saint, |
| 16 |
| nid wyf yn peidio a diolch drosoch, gan wneuthur coffa yn fy ngweddiau, |
| 17 |
| ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y Gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a dadguddiad, mewn llawn‐adnabyddiaeth o hono ef; |
| 18 |
| wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon, fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth yn y saint, |
| 19 |
| a pheth yw rhagorol fawredd ei allu tuag attom ni sydd yn credu, yn ol gweithrediad cadernid ei nerth ef, |
| 20 |
| yr hwn a weithredodd Efe yng Nghrist, gan ei gyfodi o feirw a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, |
| 21 |
| goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw; |
| 22 |
| ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef ac a'i rhoddodd ef yn Ben dros bob peth i'r Eglwys, |
| 23 |
| yr hon yw ei Gorph ef, cyflawnder yr hwn sydd yn llenwi oll ag oll. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/ephesians/001.mp3
6
1