Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a’ch pechodau, |
| 2 |
| yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol gyrfa’r byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd y sydd yn awr yn gweithredu ym meibion anufudd-dod, |
| 3 |
| ymhlith y rhai yr oeddym ni oll â’n hymarweddiad gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau’r cnawd a’r meddyliau, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, fel y lleill; |
| 4 |
| ond Duw, gan fod yn oludog o drugaredd, |
| 5 |
| o herwydd Ei gariad mawr â’r hwn y carodd Efe ni, ïe, nyni, pan yn feirw trwy ein camweddau, a gydfywhaodd Efe ynghyda Christ, |
| 6 |
| (trwy ras yr ydych yn gadwedig,) ac a’ n cyd-gyfododd, a gwnaeth i ni gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu, |
| 7 |
| fel y dangosai i’r oesoedd sy’n dyfod ragorol olud Ei ras mewn cymmwynasgarwch tuag attom yng Nghrist Iesu, |
| 8 |
| canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd, a hyn, nid o honoch chwi y mae; o eiddo Duw y mae’ r rhodd; |
| 9 |
| nid o weithredoedd y mae, fel na bo i neb ymffrostio; |
| 10 |
| canys Ei waith Ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu, er gweithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel ynddynt y rhodiem. |
| 11 |
| Am hyny, cofiwch mai gynt yr oeddych chwi, (y cenhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwir Di-amdorriad gan yr hyn a elwir Amdorriad, |
| 12 |
| yn y cnawd, o waith llaw,) yr oeddych y pryd hyny yn wahan oddiwrth Grist, yn ddieithriedig oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth gyfammodau yr addewid, heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd; |
| 13 |
| ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaethpwyd yn agos yngwaed Crist; |
| 14 |
| canys Efe yw ein heddwch, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, a chanol-fur y gwahaniaeth a ddattododd Efe, |
| 15 |
| gan ddirymmu’r gelyniaeth trwy Ei gnawd, sef cyfraith y gorchymynion mewn ordeiniadau; fel y creai y ddau, Ynddo Ei hun, yn un dyn newydd, |
| 16 |
| gan wneuthur heddwch, ac y cymmodai y ddau, mewn un corph, â Duw, trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth arni hi. |
| 17 |
| A daeth Efe ac efengylodd heddwch i chwi y rhai ym mhell, |
| 18 |
| ac heddwch i’r rhai yn agos, canys Trwyddo Ef y mae genym, ni ein dau, ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tad. |
| 19 |
| Gan hyny, ynte, nid ydych mwyach yn ddieithriaid ac ymdeithyddion, eithr yr ydych yn gyd-ddinasyddion â’r saint ac yn deulu Duw, |
| 20 |
| wedi eich adeiladu ar sail yr apostolion a’r prophwydi, ac Iesu Grist Ei hun yn ben congl-faen, |
| 21 |
| yn yr hwn yr holl adeilad wedi ei chymmwys gydgyssylltu sy’n cynnyddu yn deml sanctaidd yn yr Arglwydd; |
| 22 |
| yn yr Hwn yr ydych chwi hefyd yn cael eich cyd-adeiladu yn breswylfod i Dduw, yn yr Yspryd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/ephesians/002.mp3
6
2