|
| 1 |
|
| Oherwydd hyn, yr wyf i, Paul, carcharor Crist Iesu drosoch chwi’r cenhedloedd— |
|
| 2 |
|
| a bwrw eich bod wedi clywed am oruchwyliaeth gras Duw a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi, |
|
| 3 |
|
| fel yr amlygwyd i mi y dirgelwch mewn datguddiad, megis yr ysgrifennais o’r blaen mewn byr eiriau, |
|
| 4 |
|
| fel y gellwch, wrth ddarllen, ddeall fy nirnadaeth i yn nirgelwch y Crist; |
|
| 5 |
|
| yr hwn ni wnaed yn hysbys yn yr oesoedd o’r blaen i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w santaidd apostolion a’i broffwydi yn yr ysbryd, |
|
| 6 |
|
| sef bod y cenhedloedd yn gyd-etifeddion ac yn gyd-gorff ac yn gyd-gyfranogion o’r addewid yng Nghrist Iesu |
|
| 7 |
|
| trwy’r efengyl y gwnaed fi’n weinidog iddi yn ôl dawn gras Duw a roddwyd i ni yn ôl egni ei allu ef. |
|
| 8 |
|
| I mi’r lleiaf un o’r holl saint y rhoddwyd y gras hwn, i gyhoeddi efengyl i’r cenhedloedd |
|
| 9 |
|
| am anchwiliadwy gyfoeth y Crist ac i egluro beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a oedd yn guddiedig rhag yr oesoedd yn Nuw, creawdwr popeth, |
|
| 10 |
|
| fel yr hysbysid yn awr i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd drwy’r eglwys amryw dryfrith ddoethineb Duw, |
|
| 11 |
|
| yn ôl arfaeth oesol a wnaeth yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni, |
|
| 12 |
|
| yr hwn y mae gennym ynddo ehofndra a mynediad mewn hyder drwy ffydd ynddo ef. |
|
| 13 |
|
| Am hynny, yr wyf yn erfyn na lyfrhaoch wrth fy nhrallodion i drosoch chwi; hwy yw eich gogoniant chwi. |
|
| 14 |
|
| Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad |
|
| 15 |
|
| yr hwn yr enwir pob tadolaeth yn y nefoedd ac ar y ddaear oddi wrtho, ar iddo, yn ôl golud ei ogoniant ef, |
|
| 16 |
|
| roddi i chwi eich grymuso â nerth drwy ei ysbryd ef yn y dyn oddi mewn, |
|
| 17 |
|
| a phreswylio o’r Crist drwy ffydd yn eich calonnau, |
|
| 18 |
|
| ac i chwithau, wedi eich gwreiddio a’ch sylfaenu mewn cariad, gael nerth i amgyffred gyda’r holl saint beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder, |
|
| 19 |
|
| a gwybod cariad Crist sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y cyflawner chwi hyd at holl gyflawnder Duw. |
|
| 20 |
|
| Iddo ef sydd yn alluog i wneuthur uwchlaw popeth ymhell tu hwnt i’r hyn a ofynnwn neu a ddychmygwn, yn ôl y gallu sydd yn egni ynom, |
|
| 21 |
|
| iddo ef y gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu hyd yr holl genedlaethau yn oes oesoedd. Amen. |
|
|
: |
| 1 | | 2 | | 3 | | 4 | | 5 | | 6 | | 7 | | 8 | | 9 | | 10 | | 11 | | 12 | | 13 | | 14 | | 15 | | 16 | | 17 | | 18 | | 19 | | 20 | | 21 | 1
1
1 |
|
|---|
|
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/ephesians/003.mp3
6
3