Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Ar gyfrif hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu ar eich rhan chwi y Cenhedloedd, |
| 2 |
| os clywsoch yn wir am oruchwyliaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch chwi, |
| 3 |
| mai yn ol dadguddiad y gwnaed yn hyspys i mi y dirgelwch (megys yr ysgrifennais o'r blaen yn fyr, |
| 4 |
| wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, ganfod fy neall yn nirgelwch Crist), |
| 5 |
| yr hwn mewn cenedlaethau eraill ni eglurwyd i feibion dynion, fel yn awr y dadguddiwyd ef i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi yn yr Yspryd, |
| 6 |
| fod y Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion ac yn gyd‐aelodau o'r corph, ac yn gyd‐gyfrannogion o'r Addewid yng Nghrist Iesu, trwy yr Efengyl, |
| 7 |
| i'r hon y'm gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad ei allu ef; |
| 8 |
| i mi, yn llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i'r Cenhedloedd anolrheiniadwy olud Crist; |
| 9 |
| a rhoi goleu i bawb ar beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a guddiwyd oddiwrth yr oesau yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth, |
| 10 |
| fel yr hyspysid yn awr i'r llywodraethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr‐amryliw ddoethineb Duw, |
| 11 |
| yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, |
| 12 |
| yn yr hwn y mae i ni hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ffydd ynddo ef. |
| 13 |
| O herwydd paham yr wyf yn deisyf na lwfrhâoch yng nghanol fy mlinderau drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. |
| 14 |
| O herwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at y Tâd, |
| 15 |
| o'r hwn yr enwir pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, |
| 16 |
| ar roddi o hono i chwi, yn ol golud ei ogoniant, fod yn gadarn trwy allu, trwy ei Yspryd yn y dyn oddimewn, |
| 17 |
| ar i Grist drigo trwy ffydd yn eich calonnau, fel, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, |
| 18 |
| y byddoch lwyr‐alluog i amgyffred gyda'r holl saint beth yw y lled, a'r hyd, a'r uchder a'r dyfnder, |
| 19 |
| a gwybod cariad Crist yr hwn sydd ymhell uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch llanwer i fyny i gyflawnder Duw. |
| 20 |
| Ac i'r hwn sydd alluog i wneuthur yn dra‐rhagorol, tu hwnt i bob peth a geisiwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sydd yn gweithredu ynom, |
| 21 |
| iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, i holl genedlaethau oes yr oesoedd. Amen. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/ephesians/003.mp3
6
3