Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Deisyf arnoch gan hynny yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o'r alwedigaeth â'r hon y'ch galwyd, |
| 2 |
| gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir‐ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad, |
| 3 |
| gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yn rhwymyn tangnefedd. |
| 4 |
| Un corph sydd, ac un Yspryd, megys ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; |
| 5 |
| un Arglwydd, un Ffydd, un Bedydd, |
| 6 |
| un Duw a Thâd pawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. |
| 7 |
| Eithr i bob un o honom y rhoed y gras yn ol mesur dawn Crist. |
| 8 |
| O ganlyniad, y mae efe yn dywedyd: Pan esgynodd i'r uchelder, caethiwodd gaethiwed, A rhoddodd roddion i ddynion. |
| 9 |
| Ond hyn: Esgynodd, beth yw oddieithr iddo ddisgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? |
| 10 |
| Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y llanwai bob peth. |
| 11 |
| Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, |
| 12 |
| er perffeithiad y saint i waith gwasanaeth, |
| 13 |
| i adeiladaeth Corph Crist, hyd oni chyrhaeddom oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith, ac i fesur maintioli cyflawnder Crist; |
| 14 |
| fel na byddom mwyach yn fabanod, yn cael ein taflu gan donnau a'n cludo amgylch ogylch gan bob gwynt athrawiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol cynllwyn twyll; |
| 15 |
| eithr gan fyw gwirionedd mewn cariad, y cynnyddom ym mhob peth iddo ef, yr hwn yw y Pen, Crist, |
| 16 |
| o'r hwn y mae yr holl gorph, wedi ei gyd‐gyflunio a'i gyd‐gyssylltu trwy yr hyn y mae pob cymmal yn ei gyflenwi, yn ol gweithrediad, mewn mesur pob rhan unigol, yn gwneuthur cynnydd y corph i'w adeiladaeth ei hun mewn cariad. |
| 17 |
| Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenhedloedd hefyd yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, |
| 18 |
| wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi ymddyeithrio oddiwrth fywyd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd caledrwydd eu calon; |
| 19 |
| y rhai, wedi colli pob teimlad, a roisant eu hunain i fyny i anlladrwydd, i wneuthur pob aflendid gyda gwancusrwydd. |
| 20 |
| Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist, |
| 21 |
| (os, yn wir, y clywsoch chwi ef ac y'ch dysgwyd ynddo ef fel y mae Gwirionedd yn yr Iesu) sef, |
| 22 |
| dodi o honoch oddiwrthych, mewn perthynas i'ch ymarweddiad gynt, yr hen ddyn, yr hwn sydd yn llygru yn ol chwantau Twyll, |
| 23 |
| a'ch adnewyddu trwy yspryd eich meddwl, |
| 24 |
| a gwisgo am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol delw Duw, a grewyd mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd y Gwirionedd. |
| 25 |
| Am hynny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegyd aelodau ydym o'n gilydd. |
| 26 |
| Digiwch ac na phechwch; na fachluded yr haul ar eich cythrudd, |
| 27 |
| ac na roddwch le i Ddiafol. |
| 28 |
| Yr hwn a ladratta, na ladrattâed mwyach, eithr yn hytrach llafuried, gan weithio â'i ddwylaw ei hun yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn sydd mewn angen. |
| 29 |
| Na ddeued unrhyw ymadrodd iselwael allan o'ch genau, eithr y cyfryw a fyddo dda er adeiladaeth fel bo'r angen, fel y rhoddo ras i'r gwrandawyr. |
| 30 |
| Ac na thristêwch Yspryd Glân Duw, yn yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. |
| 31 |
| Tynner ymaith oddiwrthych bob chwerwder, a llid, a dig, a dadwrdd, a chabledd, ynghyd â phob drygioni; |
| 32 |
| a byddwch gymmwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, gan faddeu i'ch gilydd, megys hefyd y maddeuodd Duw yng Nghrist Iesu i chwi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/ephesians/004.mp3
6
4