Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Byddwch gan hynny efelychwyr Duw, fel plant anwyl; |
| 2 |
| a rhodiwch mewn cariad, megys hefyd y carodd Crist chwi, ac a draddododd ei hun trosoch yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. |
| 3 |
| Ond godineb a phob aflendid, neu drachwant, nac hyd y nod enwer yn eich plith, fel y gwedda i saint; |
| 4 |
| nac anniweirdeb, na ffol‐siarad, neu goeg‐ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch. |
| 5 |
| Canys gwybyddwch hyn, gan gydnabod nad oes i bob putteiniwr, neu aflan, neu un trachwantus, yr hwn sydd eilun‐addolwr, etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw. |
| 6 |
| Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys oblegyd y pethauh yn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion anufudd‐dod. |
| 7 |
| Gan hynny na fyddwch gyfrannogion â hwynt. |
| 8 |
| Canys yr oeddech chwi unwaith yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; |
| 9 |
| (canys ffrwyth y goleuni sydd ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd;) |
| 10 |
| gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd; |
| 11 |
| ac na fydded i chwi gymdeithasu â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach dygwch hwynt i brawf; |
| 12 |
| canys y mae yn gywilyddus hyd y nod adrodd y peth a wneir ganddynt yn ddirgel. |
| 13 |
| Canys pob peth pan eu profir, a wneir yn amlwg gan y goleuni; |
| 14 |
| canys pob peth a wneir yn amlwg, goleuni yw. O herwydd hyn y mae yn dywedyd, Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a lewyrcha arnat. |
| 15 |
| Gan hynny edrychwch yn ofalus pa fodd y rhodioch, nid fel annoethion, ond fel doethion, |
| 16 |
| gan brynnu yn llwyr yr amser, oblegyd y dyddiau sydd ddrwg. |
| 17 |
| O herwydd hyn na fyddwch yn fyr o synwyr, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. |
| 18 |
| Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae afradlonedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd, |
| 19 |
| gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher‐seinio â'ch calon i'r Arglwydd; |
| 20 |
| gan dalu diolch yn wastadol am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist i Dduw a'n Tâd, |
| 21 |
| gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Crist. |
| 22 |
| Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr eich hunain megys i'r Arglwydd; |
| 23 |
| canys y gwr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr Eglwys, ac efe yw Iachawdwr y corph. |
| 24 |
| Ond fel y mae yr eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr ym mhob peth. |
| 25 |
| Y gwŷr, cerwch eich gwragedd megys hefyd y carodd Crist yr eglwys, ac a draddododd ei hun drosti, |
| 26 |
| fel y sancteiddiai hi, gan ei glanhâu a'r olchfa ddwfr, trwy y gair, |
| 27 |
| fel y cyflwynai efe ei hun iddo ei hun yr eglwys yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni na dim o'r cyfryw; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. |
| 28 |
| Felly y dylai y gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig ei hun sydd yn ei garu ei hun; |
| 29 |
| canys ni chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei feithrin a'i fynwesu y mae, megys Crist hefyd yr eglwys, |
| 30 |
| oblegyd aelodau ydym o'i gorph ef. |
| 31 |
| O achos hyn y gâd dyn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. |
| 32 |
| Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr dywedyd wyf am Grist a'r eglwys. |
| 33 |
| Ar wahân a hyn, chwithau hefyd, un ac un, cared pob un ei wraig ei hun fel ef ei hun; ac edryched y wraig ar barchu o honi ei gwr. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/ephesians/005.mp3
6
5