Ni fydd gan yr offeiriaid o Lefiaid, na neb o lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth gydag Israel. Yr offrymau trwy dn i'r ARGLWYDD a fwyteir ganddynt fydd eu hetifeddiaeth.
Dyma fydd hawl yr offeiriaid oddi wrth y bobl sy'n offrymu aberth, prun ai eidion ynteu dafad: dylid rhoi i'r offeiriad yr ysgwydd, y ddwy foch a'r cylla.
Y mae unrhyw un sy'n ymhl 'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.
oherwydd dyna oedd dy ddeisyfiad gan yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb ar ddydd y cynulliad, pan ddywedaist, "Nid wyf am glywed llais yr ARGLWYDD fy Nuw rhagor, na gweld eto y tn mawr hwn, rhag imi farw."
beth bynnag y bydd proffwyd yn ei lefaru yn enw'r ARGLWYDD, a hwnnw heb ei gyflawni na'i wireddu, y mae hwnnw yn air nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru; mewn rhyfyg y bu i'r proffwyd ei lefaru; paid 'i ofni.